Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol - Plant Bach

I bwy mae'r rhaglen?

Mae’r rhaglen ar gyfer mam a thadau gyda phlant sydd rhwng 12-24 mis oed. Mae’n cynnig strategaethau i ymateb yn sensitif i’ch plentyn a pheidio ag annog ymddygiad diangen.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 12 wythnos.
  • Darperir crèche.

Beth yw'r manteision?

  • Darganfod pa mor bwysig yw chwarae.
  • Helpu eich plentyn i deimlo ei fod yn cael ei garu a’i fod yn ddiogel.
  • Sut mae rheolaeth eich plentyn dros ei chwarae yn bwysig ar gyfer ei iaith gynnar.
  • Annog sgiliau cymdeithasol a datblygiad emosiynol.
  • Sut y gall trefn feithrin ymdeimlad o gysondeb a diogelwch i’r plentyn.
  • Dysgu am ddisgyblaeth gadarnhaol a gosod terfynau effeithiol.
  • Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Cael cymorth gan famau a thadau eraill sydd ar yr un llwybr magu plant â chithau.