Sesiynau Chwarae i'r Teulu

I bwy mae'r sesiynau?

Mae’r sesiynau i deuluoedd yn croesawu rhieni/gofalwyr, aelodau’r teulu, gwarchodwyr plant a’u plant. Mae’r offer/gweithgareddau yn addas i blant 0-5 oed.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae’r sesiynau i deuluoedd yn 1 awr a 30 munud o hyd ac yn digwydd yn wythnosol mewn lleoliadau amrywiol ledled Torfaen.
  • Nid yw’r sesiynau’n digwydd yn ystod gwyliau ysgol.
  • Mae sesiynau i deuluoedd i gyd am ddim.

Beth yw’r manteision?

  • Lle diogel, cynnes a chroesawgar i deuluoedd a ffrindiau ddod at ei gilydd i chwarae.
  • Annog cyfleoedd newydd i chwarae.
  • Cwrdd â theuluoedd eraill fel ei gilydd.
  • Rhoi ffocws a rhywle i fynd.
  • Cydnabod pwysigrwydd chwarae i bob plentyn a theulu.
  • Sesiynau’n digwydd ledled y fwrdeistref.

Adborth

  • “Adborth gan Riant/Gofalwr: Grŵp gwych! Mae fy mab wrth ei fodd yn chwarae gyda’r teganau i gyd. Gweithwyr cwrtais hyfryd. Mae fy mywyd mor brysur, dydw i ddim yn stopio, ond mae’r grwpiau yma’n rhoi amser a chyfle i chwarae.”
  • “Adborth gan Riant/Gofalwr: Rydym ni wrth ein bodd gyda’r sesiynau dydd Mercher. Byddem ni fel arall yn y tŷ yn y tywydd ofnadwy yma. Mae’n wych bod y sesiynau am ddim gyda chostau byw fel maen nhw ar hyn o bryd.”
  • “Adborth gan Riant/Gofalwr: Dydw i ddim yn gwybod beth fuaswn i’n gwneud heb Chwarae Torfaen. Mae’r cynlluniau am ddim yn helpu fy mhlant a fi. Mae fy mhlant yn mynd i’r ddarpariaeth trwy gydol y flwyddyn.”
  • “Adborth gan Riant/Gofalwr: Rwy’n dod â fy ŵyr pob wythnos - rydyn ni wrth ein bodd. Mae fy ŵyr a fi wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae’n lle hapus a chyfeillgar i fynd iddo.”