
Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg ar gael ledled Torfaen
Gwarchodwyr plant
Mae'n rhaid i warchodwyr plant gofrestru gydag AGC, a gallant gynnig gofal dydd llawn i'ch plentyn, fel arfer gydag amseroedd agor sy’n addas i rieni sy'n gweithio. Gall gwarchodwyr plant gynnig sesiynau hyblyg gydag oriau agor byrrach neu hirach ac yn aml byddant yn gollwng ac yn casglu plant sy'n mynychu meithrinfa neu ysgol.
Cylchoedd Meithrin
Mae Cylchoedd Meithrin fel arfer ar gael i blant o 2 neu 2 oed a hanner i 5 mlwydd oed. Mae Cylchoedd Meithrin yn cynnig gofal plant sesiynol fel arfer naill ai am 2 neu 3 awr yn y bore neu'r prynhawn ac yn bennaf yn ystod y tymor.
Mae llawer ohonynt wedi cofrestru gydag AGC ac mae rhai yn cynnig gofal meithrin cofleidiol lle mae plant yn cael eu
Cylch Meithrin Abersychan
Eglwys Fethodistaidd y Drindod, High Street, NP4 7AE
Mae gofal meithrin cofleidiol hefyd ar gael
Cylch Meithrin Cwmbran
Y Pwerdy, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SY
Sylwch fod y ddarpariaeth hon yn cynnig clwb brecwast i blant sy'n mynychu Ysgol Gynradd Cwmbrân yn unig ar hyn o bryd
Cylch Meithrin Dol Werdd
Ysgol Gynradd Greenmeadow, Graig Rd, Dôl Werdd, NP44 5YY
Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl
Neuadd Iago Sant, Maes Iago Sant, Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JT
Sylwch fod y ddarpariaeth hon wedi'i chofrestru fel Darparwr Addysg Blynyddoedd Cynnar
Gofal Dydd Llawn
Mae Gofal Plant Yr Enfys wedi agor yn ddiweddar ar safle Ysgol Gymraeg Gwynllyw ac mae’n darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg i blant 0-5 oed. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth Dechrau'n Deg am 12.5 awr yr wythnos, gofal sesiynol a diwrnod llawn i blant 0-3 oed a gofal cofleidiol i blant 3-5 oed. Mae Gofal Plant Yr Enfys hefyd yn cymryd rhan yng Nghynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru a Gofal Plant Di-dreth.
Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw
Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Folly Road, Trefddyn, Pont-y-pŵl, NP48JD
Mae Gofal Teg wedi agor yn ddiweddar ar safle Ysgol Panteg ac mae’n darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg i blant 2 – 11 oed. Mae hyn yn cynnwys gofal dydd llawn a sesiynau hanner diwrnod i blant 2 - 4 oed, gofal cofleidiol i blant 3-4 oed a darpariaeth y tu allan i'r ysgol i blant 4 - 11 oed.
Addysg feithrin cyfrwng Cymraeg i'ch plentyn 3 neu 4 oed
Mae ysgolion meithrin a darparwyr addysg feithrin cofrestredig yn cynnig addysg blynyddoedd cynnar rhan-amser am ddim i blant 3 a 4 oed, a ariennir gan yr Awdurdod Lleol. I gael mwy o wybodaeth am gyllid addysg feithrin yn Nhorfaen yn gyffredinol, ewch i'n tudalen addysg feithrin. Mae darpariaeth feithrin yn rhan-amser.
Darperir addysg feithrin cyfrwng Cymraeg gan bob un o'r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhorfaen a chan rai lleoliadau gofal plant sydd wedi'u cymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol ac Estyn.
Addysg Gynradd Cyfrwng Cymraeg
Gall plant drosglwyddo i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg o feithrinfa cyfrwng Saesneg ac nid yw’n ofynnol i rieni siarad Cymraeg cyn i’w plant allu ymuno ag ysgol cyfrwng Cymraeg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â'r penaethiaid yn uniongyrchol neu gallwch gysylltu â’r tîm derbyn ar 01495 766915.
Gofal cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r ysgol
Darperir gofal plant cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r ysgol yn Nhorfaen gan warchodwyr plant, clybiau brecwast, clybiau cyn ysgol a chlybiau ar ôl ysgol ac mae ar gael i blant oed ysgol gynradd. Sylwch fod rhai clybiau cyn ac ar ôl ysgol yn cael eu cynnal am llai na dwy awr, felly nid oes rhaid iddynt gofrestru gydag AGC.
Clybiau Cyn Ysgol
Cylch Meithrin Cwmbrân
Y Pwerdy, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SY
Ysgol Gymraeg Cwmbrân
Gofal Teg
Ysgol Panteg, Station Road, Tref Gruffydd, Pont-y-pŵl, NP4 5JH
Clybiau Ar ôl Ysgol
Clwb Plant y Tri Arth
Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Henllys Way, Sain Derfel, Cwmbrân
Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn unig
Clybiau Gwyliau
Gofal Teg
Ysgol Panteg, Station Road, Tref Gruffydd, Pont-y-pŵl, NP4 5JH
Chwarae Torfaen
Mae Chwarae Torfaen yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r ysgol. Cysylltwch ar [email protected] i gael y wybodaeth ddiweddaraf
Ysgol Pob Oed (Ystod oedran 3-18 oed)
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol cyfrwng Cymraeg, rhanbarthol ar gyfer pob oed. Ar hyn o bryd mae’n derbyn disgyblion o Dorfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yn Nhrefddyn, Pont-y-pŵl. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01495 750405 neu e-bostiwch [email protected].
Yn Yr Adran Hon