Rolling Hills

Dewis Gofal Plant

Mae dewis y gofal plant iawn yn benderfyniad mawr a gall fod yn anodd. Mae llawer o bethau i'w hystyried ond peidiwch â phoeni, mae llawer o help ar gael.

Manteision defnyddio gofal plant

Mae yna lawer o resymau pam y gallech chi fod eisiau defnyddio gofal plant.

Mae gofal plant o ansawdd uchel yn cefnogi datblygiad plant. Gall gofal plant ddarparu amgylchedd diogel sy’n meithrin plant, lle gall plant ddysgu a thyfu yn ogystal â datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol pwysig.

Gall gofal plant fod o gymorth mawr i deuluoedd. Gall ddarparu amgylchedd diogel ac ysgogol i'ch plentyn, a rhoi’r hyblygrwydd i chi i weithio neu ddilyn diddordebau eraill ar yr un pryd.

Mae sawl math gwahanol o ofal plant ar gael ar draws Torfaen. Mae’r rhain yn cynnwys:

Types of childcare
DarparwrMath o ofal plantOedrannau’r plant (fel arfer)Amserau agorIaith
Meithrinfa gofal dydd llawnFel arfer yn gweithredu o safle sydd wedi cael ei adeiladu yn arbennig at y dibenFel arfer o enedigaeth ond yn dibynnu ar y lleoliad. Mae llawer ohonynt hefyd yn gweithredu sesiynau grŵp chwarae (2-3 oed); gofal cofleidiol (3 – 4 oed), a rhai hefyd yn cynnig clybiau brecwast, gofal ar ôl ysgol a gofal yn ystod y gwyliau i blant oed ysgolDiwrnod llawn Hanner diwrnod SesiynolCymraeg Saesneg Dwyieithog
Gwarchodwr plantYn gweithredu o gartrefYn dibynnu ar y Gwarchodwr Plant ond fel arfer 0 – 12 oed, ond weithiau’n hŷn.Fel arfer yn gallu bod yn hyblyg, gan ddibynnu ar y galwCymraeg Saesneg Dwyieithog
Grŵp chwaraeGallai fod ar safle ysgol, mewn neuadd eglwys, caban Sgowtiaid, neu adeilad cymunedol2 – 3 oed ar gyfer sesiynau cyn-ysgol; 3-4 oed ar gyfer gofal ‘cofleidiol’Sesiynau Clwb brecwast Clwb cinioCymraeg Saesneg Dwyieithog
Cylch MeithrinGallai fod ar safle ysgol, mewn neuadd eglwys, caban Sgowtiaid, neu adeilad cymunedol2 – 3 oed ar gyfer sesiynau cyn-ysgolSesiynau Clwb brecwast Clwb cinioCymraeg

Mae gofal plant yn gallu bod yn gofrestredig neu’n anghofrestredig

Yn ôl y gyfraith, rhaid i ddarparwyr gofal plant sy’ gweithredu am fwy na 2 awr y dydd, neu fwy na 5 niwrnod y flwyddyn, gofrestru a chael arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Gallwch ddod o hyd i adroddiadau’r arolygiadau yma Hafan | Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae lleoliadau gofal plant anghofrestredig sy'n gweithredu o dan 2 awr y dydd, neu lai na 5 niwrnod y flwyddyn, yn gallu bod o ansawdd uchel o hyd, ond nid ydynt yn cael eu harolygu. Efallai na fyddwch yn gymwys i gael help i dalu eich costau gofal plant os ydych yn defnyddio lleoliad anghofrestredig.

Rhaid i leoliad cofrestredig

  • Gael arolygiad gan arolygwyr AGC. Cewch ragor o wybodaeth am Arolygiaeth Gofal Cymru yma
  • Sicrhau bod plant yn cael gofal mewn amgylchedd diogel ac addas.
  • Cael staff sy’n cael eu gwirio mewn ffordd addas, sy’n gymwys ac sydd wedi cael eu hyfforddi i gefnogi eich plentyn a gofalu amdano.
  • Cael cymarebau oedolyn i blentyn penodol sy’n sicrhau bod digon o staff i ofalu am nifer y plant yn y lleoliad a’u hoed.
  • Cael polisïau, gweithdrefnau ac yswiriant yn eu lle i sicrhau bod staff a phlant yn cael gofal a’u bod yn ddiogel.

Help i ddewis y Gofal Plant cywir

Bydd y wefan Dewis Gofal Plant yn dweud wrthych am fuddion gofal plant a’r mathau gwahanol sydd ar gael, ble i ddod o hyd i ofal plant a pha gymorth ariannol sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau gofal plant.