Rolling Hills

Cymorth Costau Byw

Cronfa Cymorth i Ofalwyr

Gall Gofalwyr di-dâl wneud cais am grantiau ar gyfer eitemau hanfodol. Dysgwch mwy am y Gronfa Cymorth i Ofalwyr De-ddwyrain Cymru yma, neu gallwch gysylltu â [email protected]

Talebau bwyd a Banciau bwyd

Gallwch gael talebau gan Gyngor ar Bopeth, Canolfan Byd Gwaith, meddygfeydd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, a gallwch eu defnyddio yn eich banc bwyd lleol.

Cyngor ar Bopeth

I gael gwybodaeth am dalebau bwyd a banciau bwyd, ewch i www.citizensadvice.org.uk

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen

I gael gwybodaeth am fanciau bwyd lleol ewch i www.tvawales.org.uk

Prydau Ysgol am ddim

Os ydych yn derbyn budd-daliadau, efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Dysgwch mwy am Brydau ysgol am ddim yma.

Y Bartneriaeth Gwydnwch Bwyd

Ei nod yw cynyddu maint y bwyd cynaliadwy yn y fwrdeistref a dod o hyd i atebion hirdymor i dlodi bwyd. Dysgwch mwy am y Rhaglen Gwydnwch Bwyd yma.

Tîm budd-daliadau Cyngor Torfaen

Cysylltwch â thîm budd-daliadau'r Cyngor ar [email protected] neu ffoniwch y Tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01495 766430 neu 01495 766570.

Creu Cymunedau Cryf

I gael cyngor ar sut i atal caledi yn y dyfodol, ewch i wefan Creu Cymunedau Cryf.

Help for Households (gov.uk)

Mae Llywodraeth y DU wedi creu gwefan Help for Households sy'n rhoi cymorth a chyngor ariannol, ar gael i gyd yn yr un lle.

Ewch i helpforhouseholds.campaign.gov.uk