Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Torfaen yn rhoi gwybodaeth a chyngor diduedd, rhad ac am ddim am wasanaethau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yn cynnwys darpar rheini yn Nhorfaen. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am addysg feithrin, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant cofrestredig, clybiau y tu allan i’r ysgol, grwpiau babanod a phlant bach, gweithgareddau hamdden a llawer mwy.
Gallwn hefyd gyfeirio rhieni/gofalwyr at wybodaeth am wasanaethau neu fudiadau eraill yn ôl ymholiadau unigol. Rydym yn un o 22 o Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yng Nghymru, sydd yn cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol.
Pan fyddwch yn cysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen am fod gennych ymholiad, mae gennym system ar-lein i'n cynorthwyo. Efallai y bydd angen i ni ofyn am eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt i’w nodi a’u storio ar y system. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae Hysbysiad Preifatrwydd yn nodi sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch a sut yr ydym yn diogelu eich preifatrwydd, ar gael yma.