Rolling Hills

Yn ystod beichiogrwydd ac o enedigaeth

Nid yw byth yn rhy gynnar i siarad â'ch babi. Oeddech chi’n gwybod bod eich babi yn gallu clywed cerddoriaeth, lleisiau a chymaint mwy hyd yn oed yn ystod beichiogrwydd.

Mae siarad a chanu i'ch rhai bach yn Gymraeg tra byddwch yn feichiog yn ffordd hyfryd o ymdrochi eich plentyn yn yr iaith.

Gall hyd yn oed rhoi chwa o hiraeth wrth i chi ganu’r hen ffefrynnau cyfarwydd yr oeddech siŵr of fod yn eu canu pan oeddech chi’n blentyn, fel Gee Ceffyl Bach, Dau Gi Bach ac Mi Welais Jac y Do.

Gallwch fenthyg CDs, llyfrau Cymraeg a DVDs o'r llyfrgell neu eu prynu ar-lein o Sain ac Amazon neu wefannau eraill. Dydych chi byth yn gwybod, falle ddysgwch chi ychydig o ganeuon newydd ar hyd y ffordd!

Mae grwpiau babanod a phlant bach yn ffordd ddifyr o ddysgu'r Gymraeg wrth chwarae. Mae nifer o grwpiau. Cewch hefyd ddigon o wybodaeth ar wefan Mudiad Meithrin, sefydliad allweddol sy'n cefnogi dysgu cynnar yng Nghymru. Mae'r Mudiad yn cynnal grwpiau rhieni a babanod 'Ti a Fi'.

Grwpiau babanod / plant bach: