Rolling Hills

Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar i Blant 3 a 4 oed

Beth yw'r Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar i Blant 3 a 4 oed?

Mae gan bob plentyn 3 a 4 oed hawl i o leiaf 10 awr o addysg feithrin Cyfnod Sylfaen (Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar) bob wythnos, o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Mae hyn ar gael i bob un sy’n rhiant ac yn ofalwr i blant 3 a 4 oed yng Nghymru.

Faint o oriau o Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar sydd yna bob Wythnos/Blwyddyn?

Mae Meithrinfeydd mewn Ysgolion (a gynhelir) yn cynnig rhwng 10 awr a 12.5 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar bob wythnos yn ystod y tymor ysgol yn unig.

Mae Darparwyr Nas Cynhelir (Darparwyr Preifat) yn cynnig 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar bob wythnos yn ystod y tymor ysgol yn unig.

Pwy sy'n darparu’r Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar?

  • Ysgol leol (a gynhelir)
  • Cylch Chwarae (nas cynhelir)
  • Meithrinfa Ddydd (nas cynhelir)
  • Cylch Meithrin (nas cynhelir)

Rhieni sy’n dewis ble yr ydych am anfon eich plentyn/plant ar gyfer eu Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar.

I fynd at restr o Feithrinfeydd mewn Ysgolion Cliciwch yma

I fynd at restr o Feithrinfeydd Nas Cynhelir Cliciwch yma

Sylwer: mae'r broses ymgeisio yn wahanol ar gyfer darparwyr a Gynhelir a darparwyr Nas Cynhelir.

I wneud cais ar gyfer Darparwr a Gynhelir rhaid i chi wneud cais trwy Derbyn i Ysgolion.

I wneud cais ar gyfer Darparwr Nas Cynhelir, rhaid i chi siarad yn uniongyrchol â'r Darparwr a llenwi ffurflenni’r Darparwr.

Beth yw Codi’n 3?

Plant sy’n Codi’n 3 yw’r plant sy'n cael eu pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Mawrth.

Mae plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn gymwys ar gyfer yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Ionawr.

Mae plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth yn gymwys ar gyfer yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Ebrill.

Mynediad i'r Meithrin

Mae plant sy'n 3 oed rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i gael yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Medi.

Gall y rheiny nad ydynt wedi gwneud cais am le Codi’n 3, wneud cais i ddechrau ar yr Hawl i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, a ddarperir gan Feithrinfeydd mewn Ysgolion a Darparwyr Nas Cynhelir (sy'n darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar), ym mis Medi.

Ymgeisio

Mae yna un ffenestr ymgeisio yn unig ar gyfer lleoedd meithrin a Chodi’n 3.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer lleoedd ym mis Ionawr 2025, Ebrill 2025 a Medi 2025 bellach wedi mynd heibio, ond gallwch gyflwyno cais hwyr o hyd.

Dyddiad penderfynu ar geisiadau ar amser - Dydd Llun 16 Medi 2024 (Medi 2025 a Ionawr 2025 Codi'n 3)

Dyddiad penderfynu ar geisiadau ar amser - Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 (Ebrill 2025 Codi’n 3)

Sylwer: ni dderbynnir cais am le yn y meithrin heb brawf o'r dyddiad geni.

Sylwer: Anfonir llythyron at rieni a gofalwyr plant pan fyddant yn gymwys i wneud cais. Os ydych wedi newid eich cyfeiriad ers genedigaeth eich plentyn, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth Derbyn i Ysgolion am hyn. Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01495 766915.

Derbyniadau hwyr ar gyfer 2025

I wneud cais hwyr am le yn 2025, lawrlwythwch a llenwch y Ffurflen Derbyn i’r Meithrin - 2025 a'i dychwelyd i [email protected]

Bydd unrhyw ffurflenni cais hwyr sy’n dod i law yn cael eu hystyried bob mis yn unol â'r Polisi Derbyn.

Cysylltu

I gael gwybodaeth am feithrinfeydd a gynhelir (meithrinfeydd mewn ysgolion) cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01495 766915.

I gael gwybodaeth am feithrinfeydd nas cynhelir (darparwyr preifat) cysylltwch â Gwasanaeth