Rolling Hills

Cymorth gyda Chostau Gofal Plant

Ble i ddechrau…

Mae dewis gofal plant neu addysg blynyddoedd cynnar i’ch plentyn yn gam enfawr i chi a’ch teulu. Mae yna lawer o ddewisiadau gofal plant gwahanol yn Nhorfaen i chi ddewis ohonynt. Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (FIS) roi gwybod i chi am y dewisiadau.

Wyddoch chi…

Gallech fod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau gofal plant os yw’r gofal plant rydych chi’n ei ddefnyddio wedi’i gofrestru. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio gofal plant yng Nghymru. Gallwch chi wirio gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd os yw eich darparwr gofal plant wedi’i gofrestru gyda AGC. Gallwch hefyd ofyn am y rhif cofrestru yn uniongyrchol gan eich darparwr.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn cynnig gwybodaeth am ffynonellau cymorth gyda chostau gofal plant. Rhoddir gwybodaeth gyffredinol yn unig, am fod y cymorth a roddir yn dibynnu ar amgylchiadau ac incwm. Felly mae angen i rieni gysylltu â’r cysylltiadau a roddir i dderbyn gwybodaeth fanylach o ran y cymorth ariannol hwn.

Gofal Plant Di-dreth

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn Gofal Plant Di-dreth, gallech gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o'ch plant, i helpu gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os oes gan blentyn ag anghenion ychwanegol (hyd at £4,000 y flwyddyn). Os ydych yn gymwys i dderbyn Gofal Plant di-dreth, byddwch yn creu cyfrif gofal plant ar lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 y byddwch yn ei dalu i mewn i'r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn talu £2 i mewn i'w ddefnyddio i dalu eich lleoliad gofal plant cofrestredig. Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â'r Cynnig Gofal Plant i Gymru os ydych yn gymwys i dderbyn y ddau.

Credyd Cynhwysol

Efallai y gall teuluoedd cymwys hawlio hyd at 85% o'u costau gofal plant cofrestredig drwy Gredyd Cynhwysol.

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn cynnig cyfuniad o addysg gynnar (rhwng 10 a 12.5 awr) a gofal plant (rhwng 17.5 ac 20 awr) ar gyfer plant 3 neu 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, i rieni cymwys. Nid oes raid i rieni ddefnyddio’u hawl i addysg gynnar fel rhagofyniad i gael mynediad i’r elfen gofal plant o’r cynnig. Fodd bynnag, bydd eu hawl yn cynnwys yr oriau hyn p’un a ydynt yn eu defnyddio ai peidio. Os cynigir/derbynnir oriau Cyfnod Sylfaen Meithrin ychwanegol bydd y nifer o oriau gofal plant yn cael ei leihau yn unol â hynny.

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Os ydych yn fyfyriwr ac yn talu am ofal plant cofrestredig neu gymeradwy, fe allech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol ychwanegol. Mae manylion am y Grant Gofal Plant ar gael yma.

Gofal plant i blant y lluoedd arfog

O Hydref 2022, gall personél cymwys y lluoedd arfog (Tri Gwasanaeth) wneud cais am hyd at 20 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig (39 wythnos y flwyddyn) o gyllid gofal plant cofleidiol ar gyfer plant 4 i 11 oed sy’n mynychu clybiau cyn ac ar ôl ysgol yn y Deyrnas Unedig. Mae manylion am Ofal Plant i blant y lluoedd arfog ar gael yma.

Cyngor arall gan y Llywodraeth

Ymyrraeth Blynyddoedd Cynnar

Siaradwch â'ch Ymwelydd Iechyd os ydych chi neu eich plentyn yn cael trafferth ac angen cymorth ychwanegol. Cysylltwch ar y llinell Ymwelwyr Iechyd ganolog ar 01633 431685.