Rolling Hills

Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy Torfaen

Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy Torfaen

Mae’r Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy yn estyniad o Gynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru. Ar hyn o bryd, mae 36 o leoliadau cyn-ysgol yn Nhorfaen wedi ymrwymo i’r cynllun, yn cynnwys meithrinfeydd dydd, Dechrau’n Deg, cylchoedd chwarae a gwarchodwyr plant.

Mae’r cynllun yn hyrwyddo ymddygiadau iechyd cadarnhaol o oedran ifanc, gan gynnwys iechyd y geg da a phwysigrwydd bwyta’n iach ac ymarfer corff i gefnogi lleihau gordewdra yn y Blynyddoedd Cynnar.

Mae’r cynllun wedi’i achredu, ac felly, mae angen i bob lleoliad gasglu tystiolaeth i gefnogi pob un o’r meysydd gweithredu canlynol:

  • Maeth ac Iechyd ac Iechyd y Geg
  • Gweithgaredd Corfforol/ Egnïol
  • Iechyd Meddyliol ac Emosiynol, Lles a Pherthnasoedd
  • Yr amgylchedd
  • Hylendid
  • Diogelwch
  • Iechyd a Lles yn y Gweithle

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy, cysylltwch â:

Ruth Harris - Ffôn: 01495 742056 neu e-bost: [email protected]

Gwybodaeth i Ddarparwyr