
Pwy yw'r Swyddogion Datblygu Gofal Plant?
Mae'r Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn dîm ymroddedig sy'n cynnwys un Swyddog Datblygu Gofal Plant llawn amser a dau Swyddog Datblygu Gofal Plant rhan amser, sydd wedi’u lleoli yn Nhîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yr Adran Addysg. Mae ganddynt wybodaeth, profiad a sgiliau helaeth sy'n ategu ei gilydd a gallant ddarparu amrywiaeth o gymorth i ddarparwyr gofal plant yn Nhorfaen.
Pa gefnogaeth fedraf ei chael?
Gall y Swyddogion ddarparu pecyn cymorth busnes cynhwysfawr i ddarparwyr gofal plant hen a newydd, gan gynnwys:
- Cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a’u proses Arolygu
- Ymchwil i’r farchnad
- Recriwtio, Dethol a Chadw
- Cyngor ac Arweiniad Cyfreithiol ac ar Reoli
- Cynllunio a Chynaliadwyedd Ariannol
- Cynhyrchu Incwm a Chodi Arian
- Gwasanaethau o Ansawdd – arfer da a chyngor
- Polisïau a Gweithdrefnau
Gall y Swyddogion hefyd rhoi cymorth i ddarparwyr gofal plant hen a newydd, drwy gynorthwyo ceisiadau am gyllid mewnol ac allanol ar gyfer grantiau cychwyn busnes, grantiau cynaliadwyedd a grantiau i gefnogi plant ag anableddau mewn lleoliadau gofal plant, yn cynnwys:
- Gwiriadau Iechyd Cynaliadwyedd Busnes
- Datblygu Cynlluniau Busnes
- Cyllidebau Gweithredu a Rhagolygon Llif Arian
- Canllawiau Ceisiadau Grant
- Cwblhau Ceisiadau Grant
- Cymorth o ran Monitro a Gwerthuso Ceisiadau Grant llwyddiannus
Manylion cyswllt
I gael gwybod mwy, cysylltwch â:
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae Hysbysiad Preifatrwydd sy’n nodi sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi a sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd, i’w weld yma.