Rolling Hills

Cynllun Dechrau Iach

Beth yw Dechrau Iach?

Os ydych dros 10 wythnos yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 4 oed, mae’n bosib y gallwch gael help i brynu iach a llaeth.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn derbyn cerdyn Dechrau Iach sy’n cynnwys arian i’w wario yn rhai siopau yn y DU. Byddwn yn ychwanegu’ch swm sydd gennych hawl i’w dderbyn ar y cerdyn hwn bob 4 wythnos.

Gallwch ddefnyddio'ch cerdyn i brynu:

  • llaeth buwch plaen
  • ffrwythau a llysiau ffres, wedi'u rhewi neu mewn tun
  • corbys ffres, sych neu mewn tun
  • llaeth fformiwla i fabanod wedi ei greu o laeth buwch

Gallwch hefyd ddefnyddio'ch cerdyn i gasglu:

  • Fitaminau Dechrau Iach – i’ch helpu yn ystod eich cyfnod beichiogrwydd ad wrth fwydo o’r fron
  • diferion fitamin i fabanod a phlant ifanc – mae'r rhain yn addas o enedigaeth hyd at 4 oed

Dyma fideo yn esbonio mwy am y Fenter Dechrau Iach.

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

Talebau Dechrau Iach

Os ydych chi'n feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 4 oed, mae’n bosib y gallwch gael talebau y gellir eu gwario ar laeth, ffrwythau, llysiau a fformiwla i fabanod. Mae talebau fitaminau am ddim hefyd ar gael. Nid oes angen llofnod gweithiwr iechyd proffesiynol mwyach ar y ffurflen gais. I gael gwybod a ydych yn gymwys, ewch i wefan Dechrau Da.