Rolling Hills

Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent

Rydym yn chwilio am fusnesau a safleoedd ledled Gwent i ddod yn lleoliadau sy’n 'Croesawu Bwydo ar y Fron'. Nod cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yw hyrwyddo, diogelu a chefnogi hawl rhiant i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus, a chael mwy i dderbyn bod bwydo ar y fron yn gwbl arferol.

Beth yw'r manteision i fy musnes / safle?

Yn ogystal â chefnogi hawl gyfreithiol rhiant fwydo ar y fron yn gyhoeddus, mae bod yn rhan o'r cynllun yn cynnig nifer o fanteision i fusnes/safleoedd:

Cyhoeddusrwydd am ddim: Ar ôl ennill achrediad, bydd eich busnes yn cael ei hyrwyddo trwy lwyfannau amlgyfrwng ledled y Rhanbarth a Chymru, gan gynnwys gwefannau bwydo ar y fron yn rhanbarthol a gwefannau awdurdodau lleol, gyda dolenni cenedlaethol.

Y posibilrwydd o ddenu cwsmeriaid / cleientiaid newydd. Bydd pob rhiant newydd, cyn geni ac ar ôl geni, yn cael gwybod am leoliadau sy’n 'Croesawu Bwydo ar y Fron'. Bydd rhieni sydd â babanod a phlant ifanc eisiau ymweld â safleoedd os ydynt yn gwybod y byddant yn diwallu eu hanghenion.

Ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn bydd y cyfryngau lleol yn cael gwybod am yr hyn sy'n digwydd o ran bwydo ar y fron yn Rhanbarth Gwent.

I gael gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau digidol, gweler Tîm Bwydo Ymatebol AB

Sut gall fy musnes neu fy safle gymryd rhan?

Gallwch ddod yn rhan o'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru.

Ar ôl i chi gofrestru, bydd y tîm rydym yn cysylltu â chi i anfon eich sticer ffenest, poster sy’n dangos y polisi, gwybodaeth arall sy’n ddefnyddiol a chyflwyniad byr i'w rannu gydag unrhyw aelodau eraill o staff.

Darparwyr Cofrestredig Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent

  • Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road - Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SZ
  • Llyfrgell Blaenafon - Church Road, Pont-y-pŵl, NP4 9AS
  • Cylch Chwarae a Gofal Cofleidiol Busy Bees - Park Street, Blaenafon, NP49AA
  • Meithrinfa Ddydd Busy Bees - Canolfan Integredig i Blant Blaenafon, Middle Coed Cae Road, Blaenafon, NP49AW
  • Y Ganolfan Ddinesig - Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
  • Ysgol Gynradd Coed Eva - Teynes, Coed Eva, Cwmbrân, NP44 4TG
  • Ysgol Uwchradd Cwmbrân - Tŷ Gwyn Way, Fairwater, Cwmbrân, NP44 4YZ
  • Canolfan Integredig i Blant Cwmbrân - Ton Road, Cwmbrân, NP44 7LE
  • Llyfrgell Cwmbrân - Gwent House, Sgwâr Gwent, Cwmbrân, NP44 1XQ
  • Dechrau'n Deg, Canolfan Integredig i Blant Blenheim Road - Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SZ
  • Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw - Folly Road, Trefddyn, Pont-y-pŵl, NP4 8JD
  • Cylch Chwarae Hwyaid Bach Garnteg - Hillcrest Road, Garndiffaith, Pont-y-pŵl, NP4 7SJ
  • Canolfan Integredig i Blant Pen-y-garn - Penygarn Road, Pen-y-garn, NP4 8JR
  • Cylch Chwarae Pontnewydd - Ysgol Gynradd Pontnewydd, Bryncelyn Road Cwmbrân Torfaen NP44 1JW
  • Llyfrgell Pont-y-pŵl - Hanbury Road, Pont-y-pŵl, NP4 6JL
  • Meithrinfa Ddydd Poppies - Maesderwen House Pont-y-pŵl Pont-y-pŵl NP4 5LE
  • Meithrinfa Wriggles and Giggles - 70 Victoria Street, Hen Gwmbrân, NP44 3JP