
Cwestiynau Cyffredin
Sut ydw i'n dod o hyd i ofal plant yn fy ardal, a beth yw'r opsiynau?
Gallwch gysylltu â ni ar ein rhif Rhadffôn 0800 0196 330 am gyngor ac arweiniad ar fathau o ofal plant, gwybodaeth am ofal plant lleol sydd ar gael, a chymorth gyda chostau gofal plant.
Sut ydw i'n gwybod os allaf gael unrhyw help gyda chostau gofal plant?
Os ydych chi’n gweithio ac yn talu am ofal plant cofrestredig, gallech fod yn gymwys i gael rhywfaint o gymorth tuag at gost gofal plant. Mae manylion y cymorth ariannol sydd ar gael ar ein tudalen Cymorth gyda Chostau Gofal Plant.
Beth yw’r hawl gofal plant am ddim i blant 2 oed, a sut ydw i’n gwybod a ydw i’n gymwys?
Ar hyn o bryd cynigir hawl gofal plant am ddim i blant 2 oed trwy raglen Llywodraeth Cymru, Dechrau’n Deg, sydd wedi’i dargedu mewn ardaloedd penodol ledled Cymru. Gallwch weld a ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg trwy ein ffonio ni ar Radffôn 0800 0196 330 neu siarad â’ch Ymwelydd Iechyd. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Dechrau’n Deg yma.
Dydw i ddim yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?
Mae llawer o raglenni yn Nhorfaen sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd (gan gynnwys darpar rieni). Rhowch alwad i ni ar Radffôn 0800 0196 330 i gael gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch anghenion unigol. Gallwch hefyd ymweld â’n Tudalen Cymorth i Deuluoedd am fanylion Teuluoedd yn Gyntaf a mwy.
Sut ydw i’n gwneud cais am le mewn ysgol feithrin / dosbarth meithrin yn Nhorfaen?
Os ydych chi wedi symud ers i’ch plentyn gael ei eni, efallai y bydd angen i chi gysylltu â Gwasanaeth Addysg Torfaen ar 01495 766915 i ddiweddaru cyfeiriad eich plentyn. Cysylltwch â ni ar Radffôn 0800 0196 330 neu e-bostiwch [email protected] i gael manylion y ddarpariaeth feithrin leol.
Beth yw addysg feithrin i blant sy'n codi'n dair oed?
Gall plant yn Nhorfaen wneud cais am le meithrin yn y tymor ar ôl iddynt droi’n dair oed. Mae lleoedd i blant sy’n codi’n dair oed yn ddibynnol ar p’un ai bod lleoedd ar gael mewn meithrinfeydd y wladwriaeth (meithrinfeydd mewn ysgolion) neu leoliadau gofal plant preifat (darparwyr addysg).
Anfonir llythyr at rieni ar gyfer addysg feithrin (gweler uchod) ym mis Medi cyn pen-blwydd eu plentyn yn dair oed, a gall plant fod yn gymwys i ddechrau yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed (lle meithrin i blant sy’n codi’n dair oed).
Mae lleoedd i blant sy’n codi’n dair oed yn ddibynnol ar p’un ai bod lleoedd ar gael mewn meithrinfeydd y wladwriaeth (meithrinfeydd mewn ysgolion) neu leoliadau gofal plant preifat (darparwyr addysg).
Beth yw’r cynnig gofal plant 30 awr a sut gallaf gael hyd iddo?
Menter Llywodraeth Cymru yw Cynnig Gofal Plant i Gymru a bydd yn darparu 30 awr o ofal plant i rieni cymwys sy’n gweithio a chanddynt blant 3-4 oed yn unig. Bydd y 30 awr o ofal plant yn gyfuniad o addysg gynnar (rhwng 10 a 12.5 awr) a gofal plant (rhwng 17.5 ac 20 awr), am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Cynnig Gofal Plant Cymru.
Beth allaf ei ddisgwyl pan fyddaf yn cysylltu â’r gwasanaeth?
Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd byddwch Byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich holl gwestiynau a rhoi unrhyw gyhoeddiadau a gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill a all eich cefnogi os bydd angen help pellach arnoch. Byddwn yn creu pecyn gwybodaeth pwrpasol, wedi ei deilwra i chi, a gallwch ei dderbyn drwy’r post neu mewn e-bost. Fel arall, gallwch ddod i siarad â ni wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Blant Integredig Cwmbrân, Ton Road, NP44 7LE.