Rolling Hills

Teuluoedd yn Gyntaf

Mae angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol ar bawb o dro i dro.

Mae cael tîm o gwmpas eich teulu yn helpu dod â phobl at ei gilydd a all eich helpu chi a’ch teulu, gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion a chreu newid. Gelwir hyn yn rhaglen Cymorth i Deuluoedd Torfaen ac mae’n gweithio ar y cyd â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig cefnogaeth ledled Torfaen. Gall gweithiwr proffesiynol atgyfeirio a gall teuluoedd atgyfeirio’u hunain.

Yn dilyn atgyfeiriad, byddant yn trafod y cymorth mwyaf priodol gyda chi i ddiwallu anghenion eich teulu. Gellir cynnal asesiad cymorth i deuluoedd sy'n seiliedig ar gryfderau ac anghenion teuluoedd. Bydd yr asesiad hwn yn helpu i ganfod a deall unrhyw gymorth sydd ei angen. Fel arall, efallai y cynigir cymorth magu plant yn y lle cyntaf.

Gellir gweld crynodeb cam wrth gam am y broses atgyfeirio at Deuluoedd yn Gyntaf yma Rhaglen Cymorth i Deuluoedd Torfaen – Llyfryn Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr.

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch [email protected] neu rhowch alwad i Dîm Gogledd Torfaen ar 01495 742827 neu Dîm De Torfaen ar 01495 742854.

Gellir dod o hyd i wybodaeth i ymarferwyr yma Rhaglen Cymorth i Deuluoedd Torfaen – Llyfryn Gwybodaeth i Ymarferwyr.