Rolling Hills

I Dadau, Gan Dadau

Gall tadau newydd a darpar dadau yn Nhorfaen ymuno â rhaglen newydd sy'n anelu i gefnogi tadau ar eu taith newydd fel rhiant.

Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen sy’n cynnal y rhaglen 11 wythnos i Dadau, Gan Dadau ac mae’n ymdrin ag ystod o bynciau fel cymorth cyntaf i blant, iechyd a lles, maeth a magu plant.

Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau wythnosol, i drafod ystod eang o bynciau i gefnogi tadau ar eu taith magu plant. Mae rhai o'r gweithdai yn cynnwys:

  • Iechyd a lles
  • Diet a maeth
  • Gwybodaeth gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd
  • Seicoleg
  • Gamblo a hapchwarae

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd tadau yn cael cyfle i ymgysylltu â grwpiau, clybiau a fforymau lleol yn y gymuned sy'n addas ar gyfer eu hanghenion.

Cynigir uchafswm o 30 o leoedd ar y rhaglen.

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

Adborth gan y tadau sy'n mynychu

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

Sylw i'r grŵp yn y wasg