
Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent
Rydym yn chwilio am fusnesau a safleoedd ledled Gwent i ddod yn lleoliadau sy’n 'Croesawu Bwydo ar y Fron'. Nod cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yw hyrwyddo, diogelu a chefnogi hawl rhiant i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus, a chael mwy i dderbyn bod bwydo ar y fron yn gwbl arferol.
Beth yw'r manteision i fy musnes / safle?
Yn ogystal â chefnogi hawl gyfreithiol rhiant fwydo ar y fron yn gyhoeddus, mae bod yn rhan o'r cynllun yn cynnig nifer o fanteision i fusnes/safleoedd:
Cyhoeddusrwydd am ddim: Ar ôl ennill achrediad, bydd eich busnes yn cael ei hyrwyddo trwy lwyfannau amlgyfrwng ledled y Rhanbarth a Chymru, gan gynnwys gwefannau bwydo ar y fron yn rhanbarthol a gwefannau awdurdodau lleol, gyda dolenni cenedlaethol.
Y posibilrwydd o ddenu cwsmeriaid / cleientiaid newydd. Bydd pob rhiant newydd, cyn geni ac ar ôl geni, yn cael gwybod am leoliadau sy’n 'Croesawu Bwydo ar y Fron'. Bydd rhieni sydd â babanod a phlant ifanc eisiau ymweld â safleoedd os ydynt yn gwybod y byddant yn diwallu eu hanghenion.
Ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn bydd y cyfryngau lleol yn cael gwybod am yr hyn sy'n digwydd o ran bwydo ar y fron yn Rhanbarth Gwent.
Sut gall fy musnes neu safle gymryd rhan?
I gymryd rhan, gwyliwch y cyflwyniad byr
Yna cysylltwch â'ch tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gofrestru. Gweler y manylion cyswllt isod.
Sir Fynwy - Dechrau'n Deg
Darparwyr Cofrestredig Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent
Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP444SZ
Ysgol Gynradd Coed Eva, Teynes, Coed Eva, Cwmbrân, NP44 4TG
Canolfan Integredig i Blant Cwmbrân, Ton Road, Cwmbrân. NP44 7LE
Dechrau'n Deg, Canolfan Integredig i Blant Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbran, NP44 4SZ
Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw, Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Folly Road, Trefddyn, Pont-y-pŵl, Torfaen. NP4 8JD
Canolfan Integredig i Blant Pen-y-garn, Penygarn Road, Pen-y-garn, Torfaen. NP4 8JR
Meithrinfa Wriggles and Giggles, 70 Victoria Street, Hen Gwmbrân, NP44 3JP