Uned Drochi’r Gymraeg - Carreg Lam

Uned drochi yw Carreg Lam, ar gyfer disgyblion cynradd ym mlynyddoedd 2 i 6 sy’n dymuno symud i addysg cyfrwng Cymraeg.

Nod y ganolfan yw cefnogi’r disgyblion i wella’r sgiliau a’r hyder y mae eu hangen arnynt i barhau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyffredinol, bydd plant yn ymuno â’r uned am gyfnod dwys o ddysgu sy’n parhau am gyfnod o tua 12 wythnos, cyn cael cyfnod o integreiddio a phontio er mwyn trosglwyddo i leoliadau Cymraeg prif ffrwd yn Nhorfaen.

Mae ein prosbectws yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i esbonio popeth am ein canolfan drochi.

I gael mwy o wybodaeth am Garreg Lam, ewch i www.carreg-lam.com