Dewis Gyrfa yn y maes Gofal Plant
Ydych chi'n angerddol am lunio bywydau plant a chael effaith gadarnhaol arnyn nhw a'u teuluoedd?
Beth am gymryd y camau cyntaf ar daith i yrfa werth chweil gyda chyfleoedd diddiwedd i dyfu a datblygu.
Dewisiadau Gofal Plant
Mae Dewisiadau mewn Gofal plant yn rhaglen rad ac am ddim ac yn gyflwyniad perffaith i yrfa mewn Gofal Plant. Ei nod yw eich helpu i wneud dewis gwybodus wrth ddewis gyrfa os ydych chi’n ystyried gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae yna lawer o swyddi yn y maes gofal plant sy’n cynnwys gwarchod plant, gweithio mewn crèche, cylch chwarae, cylch meithrin, meithrinfa ddydd neu leoliad y tu allan i’r ysgol. Bydd siaradwyr gwadd yn mynychu rhai o’r sesiynau i rannu eu profiadau a’u harbenigedd.
Bydd crèche ar gael ond bydd hynny’n amodol ar nifer y lleoedd fydd ar gael.
I gyfleu eich diddordeb mewn lle ar y cwrs, rhowch alwad ar 01633 647734.
Dod yn Warchodwr Plant Cofrestredig
A fyddech chi’n hoffi gyrfa sy’n eich galluogi i weithio gyda phlant, ac sy’n hyblyg?
Byddech? Efallai mai dod yn warchodwr plant cofrestredig yw’r dewis cywir i chi.
Gall gwarchod plant fod yn yrfa gwerth chweil sy’n gweddu i lawer o wahanol ffyrdd o fyw. Fel gwarchodwr plant, mi fyddwch yn fos arnoch chi’ch hun, yn gweithio o’ch cartref eich hun a gallwch drefnu’ch gwaith mewn ffordd sy’n addas i chi a’r teuluoedd yr ydych yn gweithio gyda nhw.
Beth all Tîm Gofal Plant Torfaen ei gynnig i chi, i gefnogi eich taith i yrfa werth chweil gyda chyfleoedd diddiwedd ar gyfer twf a datblygiad.
Gallwn eich cefnogi gyda:
- Cyfleoedd wedi'u hariannu'n llawn i gwblhau cwrs gwarchod plant cyn-gofrestru
- Cefnogaeth i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- Cefnogaeth a chyngor parhaus
- Aelodaeth am ddim ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am flwyddyn i'r Gymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY)
- Mynediad i hyfforddiant a ariennir, fel Diogelu, Cymorth Cyntaf Pediatrig a Diogelwch Bwyd
- Pecyn cychwyn gan gynnwys offer pwrpasol (PACEY)
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ar [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 0800 0196 330 neu, fe allwch lawr lwytho ein cyhoeddiadau isod.
- Camau i ddod yn warchodwr plant cofrestredig
- Holiadur Gwarchod Plant
Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref
Pam fyddech am ddod yn ofalwr plant / nani cymeradwy yn y cartref?
Nid oes rhaid i ofalwyr plant sy'n gweithio yng nghartref y plentyn ei hun, na nanis, gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar hyn o bryd, ond medrant gofrestru'n wirfoddol o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol. Efallai y gall gofal plant yn y cartref ddiwallu anghenion rhai teuluoedd sy'n gweithio, fel y rhai sy'n gweithio sifftiau neu’r rhai sydd angen gofal plant dros nos.
Mae’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yn achredu nanis/gofalwyr plant yn y cartref i weithio gyda phlant 0-7 oed, gan gynnig mwy o hyder i rieni sy’n cyflogi nani, a hefyd y cyfle i hawlio rhai o’r costau gofal plant (os ydynt yn gymwys) trwy Gredydau Treth.
Beth mae cael eich cymeradwyo yn ei olygu?
Mae’r cynllun yn cadarnhau eich bod chi dros 18 oed, bod gennych dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig, eich bod wedi cael gwiriad GDG manylach (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a bod gennych gymhwyster ar Restr Cymwysterau Gofynnol Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio o fewn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
Rhaid i’r cymhwyster gofynnol o 1 Mai 1 2017, fod yn un o’r canlynol:
- Diploma mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD) (Cymru a Gogledd Iwerddon) lefelau 3, 4 neu 5, neu
- Uned CYPOP 5 – Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant yn y cartref.
I gael mwy o wybodaeth, yn cynnwys cwestiynau cyffredin yn ymwneud â’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ewch i Arolygiaeth Gofal Cymru.
Swyddi gwag yn y maes Gofal Plant
Mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu gan leoliadau gofal plant. Edrychwch ar borth swyddi Gofalwn Cymru neu rhowch alwad i ni ar 0800 0196330 neu e-bostiwch [email protected] i gael mwy o wybodaeth.