Dechrau’n Deg
Beth yw Dechrau'n Deg?
Dod â phlentyn i’r byd yw’r rhodd fwyaf gwerthfawr ond gall hefyd fod yn anodd iawn. Os ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg ac mae gennych blentyn 0-4 oed, gallwch elwa ar nifer o wasanaethau i’ch helpu chi a’ch teulu. Rydym yma i’ch cefnogi chi i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’ch plentyn.
Mae Dechrau’n Deg yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys 4 prif elfen:
Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a Bydwreigiaeth Estynedig
Bydd Tîm Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig cefnogaeth a chyngor ychwanegol trwy gydol beichiogrwydd a blynyddoedd cyntaf bywyd eich plentyn.
Bydd ein Tîm Iechyd yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth mewn ystod o feysydd fel:
- Cefnogaeth drwy gydol y cyfnod beichiogrwydd a gofalu am eich babi newydd
- Cyngor a chefnogaeth bwydo ar y fron
- Cyngor ar ddiddyfnu
- Gwiriadau diogelwch yn y cartref a chyngor i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel i fabanod
Mae gennym hefyd, dîm o:
- Fydwragedd
- Nyrsys Iechyd Meddwl
- Seicolegwyr Clinigol
- Nyrsys Meithrin Iechyd Cymunedol
A phawb yno i gynnig cymorth a chyngor os ydych eu hangen.
Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd drwy eu llinell ffôn ganolog newydd 01633 431 685 i gysylltu â'u timau ledled Gwent.
Cefnogaeth gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn
Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn un o nodau craidd Dechrau'n Deg.
Mae datblygu sgiliau lleferydd ac iaith yn allweddol wrth gefnogi plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Mae adnabod unrhyw anawsterau yn gynnar yn hanfodol am fod ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd wedi dangos pa mod hanfodol yw tair blynedd gyntaf bywyd plentyn, i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu da.
Mae tîm Datblygu Iaith Gynnar Dechrau'n Deg, sy'n cael eu cefnogi gan Therapyddion Iaith a Lleferydd, yn cynnal amrywiaeth o grwpiau i helpu rhieni i ddatblygu sgiliau cyfathrebu eu plentyn. Mae'r rhan fwyaf o'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal cyn y bydd eich plentyn yn dechrau gofal plant
Mynediad at Grwpiau Magu Plant
Gall bod yn rhiant ddod â llawenydd a hapusrwydd yn ogystal â heriau, ar adegau. Mae Tîm Magu Plant Dechrau'n Deg yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i sicrhau’r canlyniadau gorau i'w babanod a'u plant. Rydym yn cynnig amrywiaeth o grwpiau magu plant a chyrsiau ar gyfer 0-7 oed i:
- Wella hyder a sgiliau magu plant
- Meithrin lles a gwytnwch
- Cryfhau perthnasoedd
Gofal Plant
Yn ystod y tymor ar ôl eu hail ben-blwydd mae gan blant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn Nhorfaen hawl i dderbyn lle gofal plant wedi ei ariannu hyd at ddiwedd y tymor y byddant yn troi’n dair oed ac maent yn gymwys i dderbyn lle Addysg Blynyddoedd Cynnar.
Dyddiad geni'r plentyn | Pryd gall eich plentyn ddechrau gofal plant Dechrau'n Deg |
---|---|
01/01/2022 to 31/03/2022 | 08/04/2024 |
01/04/2022 to 31/12/2022 | 02/09/2024 |
01/09/2022 to 31/12/2022 | 06/01/2025 |
Gall mynychu lleoliad Dechrau’n Deg ychwanegu at yr hyn y byddwch yn gwneud yn y cartref i helpu’ch plentyn i ddysgu a datblygu ei botensial llawn. Mae dysgu’n gynnar yn gwneud gwahaniaeth MAWR i’r ffordd mae plant yn datblygu ac yn mynd ymlaen i ddysgu trwy gydol eu bywydau.
Beth fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu mewn gofal plant gyda Dechrau’n Deg?
- Chwarae/cymdeithasu gyda phlant o’r un oedran
- Rhoi cynnig ar bethau newydd
- Ymarfer sgiliau newydd
- Mwynhau amrywiaeth o weithgareddau chwarae
- Cymryd tro a rhannu
- Bod mewn awyrgylch sy’n gyfoethog o ran iaith
Cynigir gofal plant Dechrau’n Deg ar sawl ffurf – cylchoedd chwarae, meithrinfeydd dydd, gwarchodwyr plant ac yn Gymraeg a Saesneg.
Cliciwch yma i weld rhestr o Leoliadau Dechrau’n Deg yn Nhorfaen
Wrth wneud cais am ofal plant a ariennir gan Ddechrau'n Deg trwy god QR, cofiwch efallai na fydd rhai lleoliadau ar gael eto i'w dewis. Os na allwch weld y lleoliad o’ch dewis, ffoniwch 01495 742 943 i gadarnhau eich dewis.
Pam manteisio ar Ddechrau'n Deg?
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
Sut i gael mynediad i Ddechrau'n Deg
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
I fod yn gymwys rhaid bod eich plentyn fod yn byw mewn ardal cod post Dechrau'n Deg.
Rhaid mai hwn yw:
- prif gyfeiriad cartref y plentyn,
- y cyfeiriad y telir y Budd-dal Plant iddo, a
- cyfeiriad a gofrestrwyd gydag ymwelydd iechyd y plentyn.
Ni all y cyfeiriad a ddefnyddir fod:
- yn gyfeiriad perthynas arall, fel mam-gu a thad-cu
- gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal arall.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am Ddechrau'n Deg, neu i weld a ydych yn gymwys, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Radffôn 0800 0196 330.
Dewch o hyd i ni ar Facebook: @Torfaen Flying Start
Mae Dechrau'n Deg Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae Hysbysiad Preifatrwydd y Blynyddoedd Cynnar sy’n datgan sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch, a sut yr ydym yn diogelu’ch preifatrwydd, ar gael yma.