Datganiad Hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan www.torfaenfis.org.uk.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl ddefnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Mae cyngor gan AbilityNet i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw peth o'r cynnwys wedi'i ysgrifennu mewn Saesneg clir
- nid yw rhywfaint o’r cynnwys a’r ymarferoldeb gan gyflenwyr trydydd parti yn gwbl hygyrch
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:
- E-bostiwch: [email protected]
Neu, gallwch ysgrifennu atom yn:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen
Canolfan Blant Integredig Cwmbrân
Ton Road
Cwmbrân
NP44 7LE
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 5 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â'n tîm drwy e-bost [email protected]
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
- Ffôn: 0800 0196 330
- E-bost: [email protected]
- Ymweld: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen, Canolfan Blant Integredig Cwmbrân, Ton Road, Cwmbrân, NP44 7LE
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:.
Fideo
Nid oes capsiynau na thrawsgrifiadau gan rai o'r fideos ar ein gwefan. Mae'r rhan fwyaf o'r fideos yn cael eu darparu gan sefydliadau eraill, felly nid oes gennym reolaeth drostynt.
Bydd unrhyw fideos a grëwyd gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen o 23 Medi 2020 ymlaen yn cynnwys capsiynau a thrawsgrifiadau fel mater o arfer.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 19 Mehefin 2024. Cafodd ei adolygu ar 19 Mehefin 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 19 Mehefin 2024. Cynhaliwyd y prawf gan Silktide a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Profwyd pob tudalen o'r wefan a dogfennau PDF ar y wefan.
Ar hyn o bryd mae Silktide yn rhoi sgôr o 98 allan o 100 i torfaen.gov.uk o ran hygyrchedd.
Gallwch gysylltu â [email protected] drwy e-bost i gael copi o adroddiadau ac i ofyn am ragor o fanylion am adroddiadau.