Rolling Hills

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant er mwyn deall y ffordd y mae rhieni/gofalwyr yn defnyddio gofal plant yn well, y cyflenwad cyffredinol o ofal plant yn y fwrdeistref ac unrhyw ffactorau sy’n debygol o effeithio ar y galw am ofal plant. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i greu cynllun gweithredu ar gyfer Tîm Gofal Plant Torfaen a gweithredoedd ehangach y Cyngor o ran gofal plant.

Bob pum mlynedd, eir ati i gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn, sy’n cynnwys ymgynghori â rhieni / gofalwyr, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill. Bob blwyddyn, cynhelir diweddariad ar yr asesiad, i edrych ar gyflenwad a galw.

Mae Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2024 ac i ategu at hyn, e-sesiynau ar farn rheini i’w gweld yma.

Mae’r Adroddiad Dadansoddi Bylchau yn cynnwys cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau a hyrwyddo’r cryfderau a nodwyd yn yr asesiad.

Gellir darllen yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yma.