
CCYP- Canolfan Plant a Phobl Ifanc Cwmbrân
Mae gan Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, dîm o staff cyfeillgar, gofalgar ac angerddol, sydd wedi gweithio yn y ganolfan ers sawl blwyddyn. Maent yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd, cyflawni cymwysterau allweddol, goresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial i ddatblygu’n oedolion iach, ac yn ddinasyddion moesegol, gwybodus. Mae'r tîm wedi buddsoddi mewn sgiliau rhyngweithiol craidd, fel cyfathrebu, mae sawl un wedi hyfforddi mewn gwaith ieuenctid, ac mae gan bob un ohonynt wybodaeth fanwl a phrofiad o gyflawni i gefnogi pobl ifanc drwy ystod eang o wasanaethau, hyfforddiant a gweithgareddau.
Mae ymuno â chlwb ieuenctid yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau difyr mewn gofod diogel a chefnogol. Mae'n lle y gallwch fod yn chi'ch hun, cael cefnogaeth, ac ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer eich dyfodol! Mae ganddyn nhw sesiynau Galw Heibio i Bobl Ifanc Iau ac i Bobl Ifanc Hŷn
I gael gwybod mwy am Ganolfan Pobl ifanc Cwmbrân gweler y ddolen i’w gwefan CCYP
I gysylltu â Chanolfan Pobl Ifanc Cwmbran yn uniongyrchol, gweler y wybodaeth gyswllt isod:
