
Beth sydd ar gael i dadau yn Nhorfaen?
Stori ac Amser Rhigwm i Dadau
Ymunwch i rannu storïau a chaneuon syml yn ogystal â chwrdd â thadau a phant eraill. Mae'r sesiwn yn rhad ac am ddim ac nid oes angen bwcio. Cynhelir y sesiynau bob pedwerydd dydd Sadwrn yn Llyfrgell Cwmbrân, 10:00 - 10:40am.
Dadis yn ystod y dydd
Mae Adran Chwarae a Blynyddoedd Cynnar Torfaen yn gyffrous i gyhoeddi lleoliad newydd i grŵp Dadis yn ystod y dydd.
Cynhelir y sesiwn bob dydd Llun, 10:00am - 11:30am o’r ‘Ystafell Chwarae’ yn y Ganolfan Ddinesig.
Dad a Fi
Dyma sesiwn fisol a gynhelir yng Nghanolfan Blant Integredig Cwmbrân ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis.
Grŵp Tadau Gwent
Mae Grŵp Tadau Gwent yn cynnig lle diogel i unrhyw dad sy'n gofalu am blentyn ag anghenion ychwanegol, boed hynny’n angen corfforol, datblygiadol neu ddeallusol. Cynhelir sesiynau misol yng Nghanolfan Blant Serennu ar ail ddydd Sadwrn y mis rhwng 10:00am a 12:00pm.