Cymorth Magu Plant
Magu plant yw un o’r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gan rieni unigol, teuluoedd a chymunedau.
Nid yw’r gallu i fagu plant yn sgìl a geir dros nos. Yn hytrach, mae angen mynd ati’n barhau i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a hunanymwybyddiaeth.
Sefydlwyd y grwpiau Magu Plant i helpu rhieni trwy’r heriau y gallant eu hwynebu wrth fagu eu plant.
Mae Torfaen yn cynnal sawl Rhaglen Magu Plant bob tymor mewn lleoliadau amrywiol.
Y Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol
Dyma gwrs 10 wythnos i rieni a gofalwyr. Mae’n datblygu perthnasoedd cadarnhaol ar sail 4 syniad allweddol:
- Hunanymwybyddiaeth a hunan-barch
- Disgwyliadau priodol
- Empathi
- Disgyblaeth gadarnhaol
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i rieni gael cyngor da yn ogystal â chwrdd â rhieni eraill. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:
- Pwysigrwydd canmoliaeth
- Ymddygiad i’w anwybyddu
- Gwobrwyon a chosbau
- Ymdopi â theimladau
- Gofalu amdanom ni ein hunain
- Helpu plant i aeddfedu
- Gwasanaethau Cymorth Magu Plant
Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol - Babanod
Dyma gwrs 8 wythnos hamddenol a difyr, a gynlluniwyd ar gyfer rhieni sydd â baban 0-6 mis oed. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:
- Sut i feithrin perthynas glòs â’ch baban
- Helpu eich baban i gysgu
- Diddyfnu
- Diogelwch
- Pryd i alw Meddyg
Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Byddwch yn dod â’ch baban gyda chi i’r grŵp, ac mae pob sesiwn yn cynnwys amser i fod yn egnïol gyda’ch baban.
Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol - Plant Bach
Dyma gwrs 10 wythnos difyr, a gynlluniwyd ar gyfer rhieni sydd â phlentyn bach 1-2 flwydd oed. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:
- Hybu Iaith Plant Bach
- Canmoliaeth ac Anogaeth
- Ymdopi â Gwahanu ac Aduno
- Gosod Terfynau Effeithiol
- Disgyblaeth Gadarnhaol
Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Bydd crèche ar gael ar gyfer eich plentyn bach..
Rhaglen Sylfaenol y Blynyddoedd Rhyfeddol
Cwrs 12 wythnos yw’r Rhaglen Sylfaenol sy’n hybu’r defnydd o ganmoliaeth a chymhellion i annog ymddygiad cydweithredol ynghyd â disgyblaeth gadarnhaol. Mae’n ymdrin â’r canlynol:
- Gosod rheolau tŷ
- Trefn ddyddiol
- Gosod terfynau effeithiol sy’n cryfhau sgiliau cymdeithasol plant a’u gallu i reoli eu hemosiynau
- Defnyddio strategaethau amser i dawelu
Cysylltiadau Teuluol -Sesiynau Siarad â Phobl Ifanc - rhieni pobl ifanc
Mae gweithdai Siarad â Phobl Ifanc yn seiliedig ar ymchwil gyfredol ar ddatblygiad glasoed a magu plant. Maent wedi eu dylunio ar gyfer rhieni pobl ifanc a rhieni plant yn agosáu at eu harddegau.
Eu nod yw gwella’r berthynas rhwng rhieni a phobl ifanc trwy: Archwilio pwysigrwydd rhieni i bobl ifanc yn eu harddegau; Datblygu’r hyn y mae rhieni’n ei ddeall am ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a dylanwad datblygiad yr ymennydd ar ymddygiad; Datblygu’r hyn y mae rhieni yn ei ddeall am ba mor bwysig yw gwrando, cyfathrebu â geiriau a heb eiriau gyda phobl ifanc yn eu harddegau; Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o osod ffiniau a datrys problemau; a chyfle i rieni rannu eu profiad â rhieni eraill. Cynigir 4 sesiwn.
Cysylltiadau Teuluol - Croeso i’r Byd – ystod oedran – cyn geni
Mae’r wyth sesiwn yn ffordd hamddenol i rieni feddwl am y trawsnewid i fod yn rhiant a thrafod materion a all fod yn her i bob mam a thad newydd.
Yn ystod y cyfnod o wyth wythnos byddwch chi’n cwrdd â rhieni eraill ac arweinwyr grwpiau profiadol i siarad am gwestiynau pwysig fel “Sut mae fy maban yn datblygu?” “Sut ddylwn i fwydo fy mabi?” “Beth fydda i’n ei wneud pan fydd fy maban yn crio?” “A oes help ar gael?”
Bydd rhieni’n mynychu’r grŵp o’r adeg y byddant yn cyrraedd 22 wythnos o feichiogrwydd ymlaen
Mae wyth sesiwn 2 awr gydag egwyl a lluniaeth
Gwahoddir 8-10 rhiant ac mae dau arweinydd grŵp wedi eu hyfforddi mewn Cysylltiadau Teuluol
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Magu Plant Arweiniol - Ffôn: 01633 648792
I Dadau gan Dadau
Rhaglen 10 wythnos ar gyfer tadau newydd a darpar dadau sydd eisiau dysgu mwy am fod yn dad, a bod y tad gorau y gallant fod.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 07980682256 neu e-bostiwch [email protected]
Adnoddau ychwanegol ar Fagu Plant
Magu Plant. Rhowch amser iddo
Ewch i: https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
NSPCC
Ewch i: www.nspcc.org.uk
This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.
Yn Yr Adran Hon
- Grŵp Awyr Agored Babanod i Gyd
- Cylch Diogelwch
- Sesiynau Dad a Fi
- Elklan ‘Dewch i Ni Siarad â’ch Babi'
- Rhaglen Magu Plant Cysylltiadau Teuluol
- Cysylltiadau Teuluol -Sesiynau Siarad â Phobl Ifanc
- Gweithdai Cysylltiadau Teuluol
- Sesiynau Chwarae i'r Teulu
- Grŵp i Dadau gan Dadau
- Grŵp Awyr Agored Ysgolion Coedwig
- Grŵp y Blynyddoedd Rhyfeddol - Babanod
- Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol - Plant Bach
- Parenting Resources
- Rhieni Fel Athrawon Cyntaf (PAFT)
- Magu Plant Mewn Ffordd Chwareus
- Rhaglen Grŵp Cyn-geni 'Croeso i'r Byd’