Rhaglen Magu Plant Cysylltiadau Teuluol

I bwy mae'r rhaglen?

Mae i famau, tadau a gofalwyr, gyda phlant o dan 11 oed. Mae’n helpu rhieni/gofalwyr i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad, wrth ddod yn fwy cadarnhaol gydag ymagwedd o feithrin yn eu perthnasoedd â’u plant a'i gilydd. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig strategaethau effeithiol i annog ymddygiad cydweithredol, cyfrifol a rheoli ymddygiad heriol eu plant, i’n helpu i gael y gorau o fywyd teuluol.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros gyfnod o 11 wythnos.
  • Darperir crèche.

Beth yw’r manteision?

  • Dysgu pam mae plant yn ymddwyn fel maen nhw’n ei wneud.
  • Deall eich teimladau eich hun a sut mae’n effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant.
  • Deall teimladau eich plentyn.
  • Cynyddu eich natur bositif a’ch sgiliau meithrin.
  • Cydnabod y teimladau sy’n sail i ymddygiadau, rhieni a phlant.
  • Archwilio gwahanol ymagweddau at ddisgyblaeth gadarnhaol.
  • Pwysigrwydd edrych ar ôl a meithrin ein hunain.
  • Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth plant.
  • Rhoi dechrau iach i’ch plentyn a chael cartref hapusach.
  • Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Cael cymorth gan famau a thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.

Adborth

  • “Pleserus. Roeddwn i’n gallu siarad ag eraill am sut roeddwn i’n teimlo heb gael fy marnu.”
  • “Dysgais syniadau newydd a pha mor bwysig yw gofalu am eich hun.”
  • “Dw i ddim fel arfer yn hoffi mynd allan ac yn cael trafferth mewn grwpiau. Ond roedd y grŵp yn fach o ran niferoedd, yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Fe wnes fwynhau’r pynciau wythnosol, gan ddysgu syniadau newydd fel canmoliaeth, dewisiadau a chanlyniadau, rheolau teulu ac amser i mewn, yn y cartref. Bob wythnos roeddem yn bwydo yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi rhoi cynnig arno gartref.”
  • “Gydag anableddau fy mab roeddwn yn ei chael yn anodd ei adael gydag eraill ond gwnaeth y crèche i mi deimlo’n hyderus a thawelu fy meddwl y byddai’n iawn ac yn cael hwyl gyda’r plant eraill. Rhoddodd hyn hefyd seibiant i mi, sydd wedi helpu ein perthynas.”