Rhieni Fel Athrawon Cyntaf (PAFT)

I bwy mae'r grŵp?

Mae i famau a thadau a’u plant sydd angen cymorth mwy dwys neu sy’n methu cyrraedd y grwpiau.

Gwybodaeth ymarferol

  • I deuluoedd â phlant rhwng y cyfnod cyn-geni a 4 oed.
  • Mae’r sesiynau’n hamddenol ac yn canolbwyntio ar eich anghenion.
  • Gellir cynnal sesiynau gartref neu mewn lleoliad priodol.

Beth yw’r manteision?

  • Gellir teilwra’r cymorth i unigolion.
  • Gellir cynnal sesiynau gartref.
  • Bydd gennych wybodaeth am gymorth arall i fagu plant y gallwch droi ato.
  • Gallwch fyfyrio ar ymddygiad eich plentyn a dysgu sut i ymateb.
  • Cyfle i ddysgu am les y teulu, sut rydych chi a’ch plentyn yn cyfathrebu, a’u datblygiad.
  • Meithrin clwm agosrwydd cynyddol gyda’ch plentyn wrth i chi ddysgu i’w ddeall a’r hyn sydd ei angen arno.
  • Mae’n le diogel a chyfrinachol i siarad heb gael eich barnu.
  • Byddwch chi’n teimlo’n fwy hyderus ac yn teimlo’n hapusach i fod yn fam ac yn dad.

Adborth

  • “Nid wyf yn gwybod o ddifri beth y buaswn yn ei wneud heb eich cymorth. Rwyf wedi bod yn cael trafferth aruthrol yn ddiweddar ac mae gwybod bod rhywun yno i helpu, yn helpu mawr.