Magu Plant Mewn Ffordd Chwareus

I bwy mae'r grŵp?

I famau a thadau sydd eisiau dysgu mwy am bwysigrwydd chwarae a meithrin perthynas. Mae’r grŵp i deuluoedd â phlant sydd rhwng 1-3 blynedd i annog datblygu iaith a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol eu plant bach.

Gwybodaeth ymarferol

Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 4 wythnos.

Beth yw’r manteision?

  • Gwella perthynas y teulu.
  • Dysgu am chwarae a’i fanteision i chi a’ch plant.
  • Sut i gefnogi chwarae a gwneud bywyd bob dydd yn fwy chwareus.
  • Myfyrio ar yr atgofion pleserus a gawsoch wrth chwarae a’ch teimladau.
  • Archwilio’r gwahanol fathau o chwarae a phatrymau chwarae.
  • Cynyddu’ch hyder i chwarae gyda’ch plentyn a sut y gallwch ei ddefnyddio i ddatblygu eich perthynas.
  • Gallu chwarae gyda’r bwriad o wybod sut mae’n datblygu ymennydd eich babi.
  • Gwybod sut i ddefnyddio adnoddau rhad ac am ddim i greu cyfnodau o safon wrth chwarae.
  • Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Cael cymorth gan famau a thadau eraill sydd ar yr un llwybr magu plant â chithau.

Adborth

  • “Popeth yn dda. Llawer o wahanol syniadau i’w defnyddio wrth chwarae. Braf siarad â mamau eraill. Gwnaethoch chi waith gwych.”
  • “Da iawn. Gallaf weld y cyswllt gyda fy mhlentyn a deall ei ddatblygiad.”
  • “Da iawn, braf gweld wynebau eraill.”
  • “Teimlais yn ddigon hyderus i ofyn am gyngor. Gwnaeth y ddau ohonoch waith anhygoel.”