Rhaglen Grŵp Cyn-geni 'Croeso i'r Byd’

I bwy mae'r grŵp?

Ydych chi’n fam, dad neu bartner sy’n disgwyl babi ac yn llawn cyffro am ymuno â’r byd magu plant? Mae grŵp Cyn-geni ‘Croeso i’r Byd’ yn addas i ddarpar rieni sydd rhwng 22 a 30 wythnos yn feichiog.

Gwybodaeth ymarferol

Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros gyfnod o 8 wythnos.

Beth yw’r manteision?

  • Bod yn ymwybodol o’ch emosiwn a sut mae o fudd i chi a’r babi.
  • Meithrin cysylltiad rhyngoch chi a’ch babi cyn iddo hyd yn oed gael ei eni.
  • Cyfle i uniaethu â ‘chiwiau a signalau’ babi a deall ei anghenion.
  • Creu’r cwlwm agosrwydd cryf hwnnw rhyngoch chi â’ch a’i baratoi i feithrin perthnasoedd da yn y dyfodol.
  • Gweld y byd trwy lygaid eich babi a’i wneud yn ddiogel yn emosiynol ac yn gorfforol.
  • Cyfarfod â mamau a thadau newydd eraill, rhannu’r daith, rhoi cymorth i’ch gilydd a gwneud ffrindiau newydd.
  • Bydd hwyluswyr hyfforddedig a bydwraig yno i’ch cynorthwyo ac i ateb eich cwestiynau.

Cofrestru ar gyfer Rhaglen Grŵp Cyn-geni 'Croeso i'r Byd'

I gael mwy o wybodaeth anfonwch neges atom drwy dudalen Facebook Blynyddoedd Cynnar Torfaen neu ffoniwch ni ar 07950187925.

Mae Tîm Cymorth i Deuluoedd y Blynyddoedd Cynnar, hefyd yn cynnal noson wybodaeth Cyn-geni, unwaith y tymor, fel y gall rhieni alw heibio i sgwrsio ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol.

Dyma’r nosweithiau Gwybodaeth Cyn-geni nesaf:

  • 29 Ebrill 2025 rhwng 5pm a 7pm yng Nghanolfan Integredig i Blant Cwmbrân
  • 9 Medi 2025 rhwng 5pm a 7pm yng Nghanolfan Integredig i Blant Cwmbrân
  • 13 Ionawr 2026 rhwng 5pm a 7pm yng Nghanolfan Integredig i Blant Cwmbrân

Archebu lle yn y noson Wybodaeth Cyn-geni nesaf