Gweithdai Cysylltiadau Teuluol

I bwy mae'r gweithdai?

Mae i famau, tadau a gofalwyr, gyda phlentyn o dan 4. Mae’n cynnig syniadau a strategaethau i ddelio â’r heriau y gall plant eu hwynebu fel y gallwch chi gael bywyd teuluol tawelach, hapusach. Mae’n addas ar gyfer rhieni nad ydyn nhw’n gallu ymrwymo i’r rhaglen 11 wythnos lawn.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae pob sesiwn yn 2 awr a chynhelir hwy dros 4 wythnos.
  • Darperir crèche.

Beth yw’r manteision?

  • Deall ymddygiad plant, gwrando a chyfathrebu, canmoliaeth ac anogaeth.
  • Cymharu canmoliaeth ac arweiniad â beirniadaeth, chwarae dan arweiniad plant a chyfnodau cadarnhaol.
  • Ffiniau ac arddulliau magu plant, amser i dawelu, delio â straen a gwrthdaro.
  • Dewisiadau a chanlyniadau, ymddygiad i’w anwybyddu, rhoi’r pos at ei gilydd, edrych ar ôl ein hunain.
  • Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallu rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Cael cymorth gan Famau a Thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.