Grŵp i Dadau gan Dadau

I bwy mae'r grŵp?

Grŵp i dadau newydd a darpar dadau sydd am ddysgu mwy am fod yn dad a sut i fod y tad gorau posibl. Mae’n rhoi ffordd newydd i chi o feddwl am eich plentyn a sut allwch chi wneud newidiadau yn eich bywyd a fydd o fudd i chi, eich cymar a’ch plant. Mae’n eich helpu chi i fod y ‘Tad Gorau Erioed’.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn digwydd dros gyfnod o 10 wythnos.
  • Mae’r grŵp yn digwydd gyda’r hwyr.

Beth yw’r manteision?

  • Gallwch gwrdd â thadau eraill, rhannu eich taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Mae’n eich helpu i ddeall ymddygiad plant fel ffordd o gyfathrebu.
  • Gallwch ddysgu Sgiliau Cymorth Cyntaf yn benodol i blant.
  • Cyfle i sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun a bod tadau eraill yn cael profiadau tebyg.
  • Cyfle i ddysgu am grwpiau eraill yn Nhorfaen y gallwch chi fynd iddyn nhw.
  • Gallwch gael cefnogaeth gan dadau eraill sy’n rhieni fel chi.
  • Mae’n lle diogel a chyfrinachol i siarad heb gael eich barnu.
  • Byddwch yn teimlo’n fwy hyderus a hapus.
  • Cyfle i ddysgu am ffyrdd o gyfrannu at ddatblygiad eich plentyn.
  • Cyfle i feddwl am ba fath o dad yr ydych am fod.
  • Dysgu arferion cadarnhaol ar gyfer magu plant.
  • Dysgu sut gall eich cyfraniad wneud eich plentyn yn fwy hapus.

Adborth

  • “Mae’r cwrs wedi bod yn gefnogol, yn ddiddorol, yn ddyrchafol ac yn llawn gwybodaeth. Roedd y gefnogaeth a gwybodaeth gan Ambiwlans Sant Ioan yn wych. Roedd y sesiynau yn gyfle gwych i fi siarad â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, gwrando ar bobl eraill a sut maen nhw’n delio gyda phethau.”
  • “Mae’r grŵp wedi dod yn lle diogel iawn, ac mae’r hyn rwy’ wedi dysgu, o gymorth cyntaf, lles meddyliol, a gosod nodau i faeth wedi bod yn llawer mwy nag yr oeddwn i wedi disgwyl. Mae e wedi fy helpu i reoli camau cynharaf bod yn dad a gwneud dewisiadau gwell i fy nheulu ehangach. Ar ben hyn oll mae e wedi cynnig dwy awr unwaith yr wythnos ble gallaf i ymlacio, dysgu rhywbeth newydd a gweithio arnaf i fy hun. Y cyfan y gallaf i ddweud yw diolch i Jacob, Gareth a’r arbenigwyr i gyd sydd wedi siarad. Mae e wedi ychwanegu at y rhwydwaith hanfodol o gefnogaeth y mae ei angen ar dadau newydd fel fi.”