Cysylltiadau Teuluol - Sesiynau Siarad â Phobl Ifanc - rhieni pobl ifanc

Mae gweithdai Siarad â Phobl Ifanc yn seiliedig ar ymchwil gyfredol ar ddatblygiad glasoed a magu plant. Maent wedi eu dylunio ar gyfer rhieni pobl ifanc a rhieni plant yn agosáu at eu harddegau.

Eu nod yw gwella’r berthynas rhwng rhieni a phobl ifanc trwy:

  • Archwilio pwysigrwydd rhieni i bobl ifanc yn eu harddegau;
  • Datblygu’r hyn y mae rhieni’n ei ddeall am ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a dylanwad datblygiad yr ymennydd ar ymddygiad;
  • Datblygu’r hyn y mae rhieni yn ei ddeall am ba mor bwysig yw gwrando, cyfathrebu â geiriau a heb eiriau gyda phobl ifanc yn eu harddegau;
  • Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o osod ffiniau a datrys problemau;
  • a chyfle i rieni rannu eu profiad â rhieni eraill.

Cynigir 4 sesiwn.