Cylch Diogelwch

I bwy mae'r grŵp?

Grŵp i famau a thadau sydd â phlant rhwng 4 mis a 4 oed. Mae’n rhoi ffordd newydd i chi o feddwl am eich plentyn, a chanfod y ciwiau sy’n dweud wrthym beth y maen nhw ei angen gennym i wneud iddynt deimlo ein bod yn eu caru ac yn gofalu amdanynt.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 9 wythnos.
  • Darperir crèche.

Beth yw'r manteision?

  • Gallwch chi gwrdd â mamau a thadau newydd eraill a rhannu’ch taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Mae’n eich helpu i ddeall ymddygiad plant, fel cyfathrebu.
  • Cyfle i ddod o hyd i’r angen sy’n sail i ymddygiad penodol a sut i ymateb mewn ffordd garedig, gefnogol.
  • Cefnogi’ch plentyn i ddeall ei deimladau.
  • Gallwch ddarparu’r blociau adeiladu i’ch plentyn ar gyfer dyfodol emosiynol, iach.
  • Adnabod y sbardunau fel eich bod yn gallu aros yn ddigynnwrf pan fydd ymddygiadau yn llethol.
  • Gwybod pryd i gysuro ac amddiffyn ond hefyd, rhoi lle iddynt archwilio i helpu i ddatblygu eu cymeriad eu hunain.
  • Gwybod sut i atgyweirio’r berthynas pan fyddwch chi a’ch plentyn yn cynhyrfu.
  • Cynyddu’r cwlwm clos gyda’ch plentyn wrth i chi ddysgu i’w ddeall ef a’r hyn sydd ei angen arno.
  • Cael cymorth gan famau a thadau eraill sydd ar yr un cam o fagu plant â chithau.
  • Mae’n le diogel a chyfrinachol i siarad heb gael eich barnu.
  • Byddwch yn teimlo’n fwy hyderus a hapusach.

Adborth

  • “Rwy’n credu y byddai’r grŵp yn ddefnyddiol i bob rhiant, waeth beth yw oedran neu anghenion eu plant neu eu profiadau bywyd penodol. Es i mewn i’r grŵp gan feddwl fy mod eisoes yn deall ymlyniad a bod gennyf berthynas gadarnhaol â fy mhlant ac felly na fyddwn yn elwa o’r cwrs, ond cefais fy syfrdanu gan cymaint yr wyf wedi’i ddysgu a’r newid sylfaenol mewn persbectif y mae wedi ei rhoi i mi."