Sesiynau Dad a Fi

I bwy mae'r grŵp?

Mae sesiynau dad a fi yn croesawu tadau/dynion sy’n gofalu a/neu aelodau gwrywaidd o’r teulu, a’u plant. Mae’r offer/gweithgareddau’n addas i blant 0-5 oed.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae sesiynau dad a fi yn parhau am 1 awr a 30 munud ac maen nhw’n digwydd ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis.
  • Nid yw’r sesiynau’n digwydd yn ystod gwyliau’r ysgol.
  • Mae’r sesiynau am ddim.

Beth yw'r manteision?

  • Lle diogel, cynnes a chroesawgar i blant a thadau/dynion sy’n gofalu a/neu aelodau gwrywaidd o’r teulu.
  • Grŵp dim ond i dadau/dynion sy’n gofalu a/neu aelodau gwrywaidd o’r teulu.
  • Cwrdd â thadau/dynion sy’n gofalu fel ei gilydd.
  • Annog cyfleodd newydd i chwarae.
  • Rhoi ffocws a rhywle i fynd.
  • Cydnabod pwysigrwydd chwarae i bob plentyn a theulu.

Adborth

  • “Adborth gan Rhiant/Gofalwr: Rwy'n mynd â'r ddau blentyn i'r grŵp Dad a fi. Rydym yn mynd i bob sesiwn. Mae'n wych i ni gan fy mod i'n gweithio yn ystod yr wythnos. Mae'r staff yn groesawgar hefyd."
  • “Adborth gan Rhiant/Gofalwr: Mae fy merch wrth ei bodd â'r sesiynau ac rwyf wedi cwrdd â ffrindiau newydd yma hefyd. Mae llawer o bethau i'r plant chwarae gyda nhw a chawn ni fwy o syniadau o'r hyn y gallwn ni ei wneud.”