Grŵp Awyr Agored Babanod i Gyd

I bwy mae'r grŵp?

Mae'r grŵp hwn yn addas ar gyfer mamau a thadau sydd â babanod rhwng 3 a 12 mis.

Gwybodaeth ymarferol

  • Mae'n sesiwn galw heibio wythnosol.
  • Mae pob sesiwn yn parhau tuag 1 awr a 30 munud.
  • Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal yn yr awyr agored, ymhob tywydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch babi’n gwisgo’n briodol.

Beth yw'r manteision?

  • Gallwch gwrdd â mamau a thadau newydd eraill a gallwch rannu eich taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Gallwch gael syniadau newydd ar sut i gysylltu ag iaith, synau a chyffyrddiad yn y dyddiau cynnar, i hyrwyddo’r cysywllt hwnnw rhyngoch chi a’ch babi.
  • Gallwch ganolbwyntio ar ddatblygu’ch cwlwm agosrwydd a sut i ymateb a meithrin perthynas glos gyda’ch babi.
  • Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae difyr sy'n ysgogi'ch babi mewn lleoliad hapus.
  • Gallwch fanteisio ar ofod gwyrdd ac awyr iach sy’n bwydo eich iechyd meddwl ac yn rhoi gwefr i chi, felly’n helpu i leddfu straen a phryder.
  • Bydd cyfle i wneud ymarfer corff ysgafn wrth i chi ymuno â ni am dro o amgylch y parc.
  • Fe gewch gefnogaeth gan famau a thadau eraill sy’n wynebu bywyd newydd gyda’u babi, yn union fel chi.

Adborth

  • “Gair o ddiolch i chi, mae'n goron ar fy wythnos.”