Grŵp y Blynyddoedd Rhyfeddol - Babanod

I bwy mae'r grŵp?

Ydych chi’n fam neu’n dad sydd â babi 0-5 mis oed a hoffai rywfaint o gymorth i greu’r amgylchedd gorau i’ch babi ddatblygu?

Ydych? Yna ry’n ni’n cynnig lle i chi ddod i gyswllt â mamau a thadau eraill a’ch babanod i gael amser i ganolbwyntio ar fod y fersiwn orau ohonoch chi. Gorau po ieuengaf yw eich babi gan ei fod yn rhoi mwy o gyfle i chi ymarfer y fath sgiliau newydd.

Gwybodaeth ymarferol

Mae pob sesiwn yn 2 awr ac yn cael eu cynnal dros 9 wythnos.

Beth yw’r manteision?

  • Sut mae canolbwyntio ar eich lles emosiynol eich hun yn eich cynorthwyo i fod yn fam neu’n dad gwell.
  • Sut y gallwch chi sefydlu’r cwlwm agosrwydd hwnnw â’ch babi, cynyddu ei ddiogelwch a gosod y sylfaen iddo feithrin perthnasoedd cadarnhaol yn eu bywyd.
  • Deall sut mae ymennydd eich babi yn gweithio a sut y bydd yn datblygu.
  • Dysgu sut i fynd ati i dylino corff eich babi mewn ffordd fydd yn eich helpu chi a’ch babi i ymlacio a theimlo mwy o gyswllt.
  • Canfod pryd a sut i gyflwyno bwydydd solet i ddiet eich babi a chael syniadau am fwydydd y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw.
  • Cydnabod pa mor bwysig yw chwarae. Sut y gall fod yn hwyl, helpu eich babi i ddysgu siarad, i wella dysgu, ysgogi ei ymennydd, a chefnogi’r cwlwm agosrwydd rhyngoch chi a’ch babi
  • Canfod y pethau y gallwch eu gwneud i gynyddu diogelwch yn eich cartref.
  • Cyfarfod â mamau a thadau newydd eraill a rhannu eich taith gyda nhw a gwneud ffrindiau newydd.
  • Cael cymorth gan famau a thadau eraill sydd ar yr un llwybr magu plant â chithau.

Adborth

  • “Fel un sy’n fam am y tro cyntaf, defnyddiol iawn oedd cael y cyfle i siarad a holi cwestiynau. Mae’n gwneud i mi feddwl am y dyfodol a pharatoi ymlaen llaw am y cyfnod pan fydd fy mabi yn dechrau bwyta bwydydd solet a dechrau cropian ac ati. Diolch!”
  • “Fe wnes i fwynhau’r rhaglen yn fawr. Dysgais lawer o syniadau newydd o ran chwarae ac roedd y sesiwn ddiddyfnu a sesiynau diogelwch yn ddefnyddiol iawn. Dysgais lawer o bethau nad oeddwn yn eu gwybod. Diolch.”