Cymorth Cyn Geni
Gofal Cyn Geni
Gofal Cyn Geni yw'r gofal rydych chi’n ei gael gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ystod eich beichiogrwydd.
Byddwch yn cael apwyntiadau gyda bydwraig, neu weithiau gyda meddyg sy'n arbenigo ar feichiogrwydd a genedigaeth (obstetregydd).
Dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu fydwraig cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog, i ddechrau ar eich Gofal Cyn Geni.
Beth yw Gofal Cyn Geni?
Gofal Cyn Geni yw'r gofal y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn feichiog.
Bydd y fydwraig neu'r meddyg (obstetregydd) sy'n darparu eich gofal cyn geni yn:
- gwirio eich iechyd chi a iechyd eich babi
- rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi i'ch helpu i gael beichiogrwydd mor iach â phosibl.
- trafod eich opsiynau a'ch dewisiadau ar gyfer eich gofal yn ystod beichiogrwydd, esgor a genedigaeth
- ceisio ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych
Faint o apwyntiadau cyn geni fydd gen i?
Os ydych yn disgwyl eich plentyn cyntaf, cewch hyd at 10 apwyntiad cyn geni.
Os ydych wedi cael babi o'r blaen, cewch tua saith apwyntiad, ond weithiau efallai y cewch fwy - er enghraifft, os byddwch yn datblygu cyflwr meddygol.
Os na allwch fynd i apwyntiad, rhowch wybod i'r clinig neu'r fydwraig a threfnwch apwyntiad arall.
Dylai apwyntiadau cyn geni ddigwydd mewn lleoliad lle rydych yn teimlo y gallwch drafod materion sensitif, fel trais domestig, cam-drin rhywiol, salwch meddwl neu gyffuriau.
Mae pob darpar fam yng Nghymru yn cael cynnig:
- 2 sgan uwchsain o’u beichiogrwydd yn 8 i 14 wythnos a 18 i 21 wythnos.
- profion sgrinio cyn geni i ddarganfod y siawns y bydd eich babi yn dioddef o gyflyrau penodol, er enghraifft syndrom Down a syndrom Edwards.
- profion gwaed i wirio am Hepatitis, HIV a syffilis.
- sgrinio ar gyfer amrywiadau haemoglobin a thalasemia.
- sgrinio i wirio grŵp gwaed a gwrthgyrff
'Rhaglen Grŵp Cyn Geni 'Croeso i'r Byd'
Mae rhaglen cyn geni Croeso i’r Byd yn rhaglen y mae Tîm Cymorth i Deuluoedd Blynyddoedd Cynnar Torfaen wedi bod yn ei chynnal ers blynyddoedd lawer i gefnogi darpar rieni.
I bwy mae’r rhaglen?
Ydych chi'n fam feichiog, yn dad neu’n bartner sy'n llawn cyffro am ddod yn rhiant? Mae'r Grŵp Cyn Geni Croeso i'r Byd yn addas i ddarpar rieni rhwng wythnos 22 a 30 o’u beichiogrwydd.
Gwybodaeth ymarferol
Mae pob sesiwn yn para 2 awr ac mae’r sesiynau’n cael eu cynnal dros 8 wythnos.
Beth yw'r buddion?
- Ymwybyddiaeth o'ch emosiynau a sut mae hynny o fudd i chi a'r babi.
- Meithrin cysylltiad â'ch babi cyn iddo gael ei eni..
- Dod i adnabod 'ciwiau a signalau' eich babi a deall ei anghenion.
- Creu a meithrin bond cryf i sicrhau perthnasoedd da yn y dyfodol.
- Gweld y byd trwy lygaid eich babi a'i wneud yn ddiogel yn emosiynol ac yn gorfforol.
- Cwrdd â mamau a thadau newydd eraill, rhannu’r daith, rhoi cefnogaeth i'ch gilydd a gwneud ffrindiau newydd.
- Hwyluswyr wedi’u hyfforddi a bydwraig a fydd yn eich cefnogi ac yn ateb eich cwestiynau
Cysylltwch â ni nawr am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer Rhaglen Grŵp Cyn Geni 'Croeso i'r Byd' neu anfonwch neges atom trwy dudalen Facebook Blynyddoedd Cynnar Torfaen neu ffoniwch ni ar 07950187925.
Mae Tîm Cymorth i Deuluoedd y Blynyddoedd Cynnar, hefyd yn cynnal Nosweithiau Cyn Geni unwaith y tymor er mwyn i rieni alw heibio i gael sgwrs ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol. Dyma’r Nosweithiau Cyn Geni nesaf: