
Paratoi ar gyfer bywyd ar ôl ysgol
Mae gadael yr ysgol yn gam pwysig, ac wrth roi ambell i beth yn ei le yn gynnar gall eich helpu i deimlo'n hyderus ac yn barod am yr hyn sy’n dod nesaf, boed hynny'n goleg, hyfforddiant, neu gyflogaeth.
Isod mae rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi am yr amser y byddwch chi'n gadael yr ysgol.
Pethau y mae angen i chi gael yn eu lle.
Cyfrif Banc
Bydd angen cyfrif banc arnoch i dderbyn taliadau fel:
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) os ydych yn gymwys i gael addysg a pharhau mewn Addysg Amser Llawn
- Lwfansau hyfforddi gan eich Darparwr Hyfforddiant
- Cyflog gan eich cyflogwr
Os nad oes gennych un eisoes, mae'n bwysig trefnu cyfrif cyn gynted â phosibl.
Teithio
Os byddwch yn teithio i'r coleg neu i gael hyfforddiant, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad mewn costau teithio.
- Cofrestru ar gyfer Fy Nhocyn Teithio, sef cerdyn sy’n galluogi i bobl ifanc 16-21 oed deithio’n rhatach ar fws. Mae’r cerdyn yn eich galluogi i deithio’n rhatach ar fws ledled Cymru. Cofiwch wneud cais yn gynnar fel ei fod gennych cyn i'ch cwrs ddechrau.
- Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol i helpu gyda chostau trafnidiaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ariannol wrth Gefn ar gael ar wefan Coleg Gwent.
Cymorth Ariannol a Chymorth Llesiant yn y Coleg
Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael os byddwch yn parhau mewn addysg.
- Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn lwfans o £40 yr wythnos i ddisgyblion 16-18 oed. Mae ar gael i ddisgyblion sy'n bodloni'r meini prawf sy'n seiliedig ar incwm yr aelwyd. Mae ceisiadau fel arfer yn agor o fis Ebrill cyn i'ch cwrs ddechrau.
- Gall y Gronfa Ariannol Wrth Gefn rhoi cymorth ariannol ychwanegol i ddisgyblion sy'n bodloni'r meini prawf a gall helpu gyda chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â mynd i’r coleg, ee costau teithio, costau prydau bwyd ac unrhyw ddillad sydd eu hangen ar gyfer y cwrs. Mae’n seiliedig ar incwm yr aelwyd ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Coleg Gwent.
- Gall Tîm Cymorth i Ddysgwyr Coleg Gwent ddarparu cymorth llesiant, a chynnig gwasanaeth cwnsela tra byddwch chi'n astudio. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth llesiant ar gael ar wefan Coleg Gwent. Coleg Gwent – Cymorth i Fyfyrwyr [coleggwent.ac.uk]
Cadw gwybodaeth bwysig yn ddiogel
Mae'n hanfodol cadw eich dogfennau personol pwysig yn ddiogel, gan y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich darparwr ôl-16, eich cyflogwr yn y dyfodol ac at ddibenion adnabod.
Dylech wneud yn siŵr bod gennych y canlynol:
- Eich rhif Yswiriant Gwladol (NI)
- Eich tystysgrif geni
- Eich pasbort (os oes gennych un)
- Canlyniadau arholiadau TGAU
Cadwch y dogfennau hyn gyda'i gilydd mewn un lle diogel, fel ei fod yn hawdd dod o hyd iddynt pan fyddwch chi eu hangen. Efallai yr hoffech hefyd ystyried tynnu llun ohonynt neu gadw copi digidol fel copi wrth gefn.
Ymweliadau Pontio
Bydd y rhan fwyaf o golegau a darparwyr hyfforddiant yn cynnig ymweliadau pontio. Mae ymweliadau pontio yn orfodol ar gyfer rhai cyrsiau coleg (cyrsiau Lefel 1 yng Ngholeg Gwent), a gallwch golli eich lle ar y cwrs o’ch dewis os na fyddwch yn mynd iddynt. Pan fyddwch chi'n gwneud cais am goleg, byddwch yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gofrestru a bydd dyddiadau ymweliadau pontio'r coleg yn cael eu hanfon i'r cyfrif e-bost hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweliadau pontio, siaradwch â'ch darparwr ôl-16. Os ydych chi'n bwriadu mynd i Goleg Gwent, gall y Tîm Recriwtio Myfyrwyr rhoi rhagor o wybodaeth am statws eich cais a'r dyddiadau pontio.
Offer Cwrs (Cit)
Mae rhai cyrsiau yn gofyn am offer neu ddillad penodol a bydd eich coleg neu ddarparwr yn dweud wrthych beth sydd ei angen arnoch. Ceisiwch brynu hwn cyn i'ch cwrs ddechrau.
Os oes angen cymorth ariannol arnoch i brynu offer, efallai y bydd cymorth ar gael. Gofynnwch i’ch darparwr.
Budd-dal Plant
Os byddwch yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant, peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i CThEM gan y bydd Budd-dal Plant yn dod i ben os na fyddwch yn parhau yn y byd addysg bellach neu lwybr hyfforddi ffurfiol.
Ddim yn siŵr beth i'w wneud nesaf?
Mae'n iawn teimlo'n ansicr ynglŷn â beth i'w wneud nesaf. Mae llwybrau gwahanol ar gael ar ôl gadael yr ysgol, gan gynnwys:
- Coleg neu Chweched Dosbarth
- Hyfforddiant drwy Twf Swyddi Cymru +, sy'n cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith â thâl, neu
- Dod i hyd i Brentisiaeth neu Waith
Mae Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor diduedd am ddim ar yr opsiynau sydd ar gael, a gall dîm Cymru’n Gweithio eich helpu i chwilio am swydd.
Mae gan bob Ysgol Uwchradd yn Nhorfaen Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn eu Hysgolion Uwchradd a gallwch drefnu i siarad â nhw i gael cyngor ac arweiniad. Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad yn swyddfa Gyrfa Cymru yng nghanol tref Cwmbrân a gallwch ei drefnu ar wefan Gyrfa Cymru.
