
Gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Gofal plant i bob plentyn dwy oed yn Nhorfaen a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fis Ionawr 2027
O fis Ionawr 2027, bydd pob plentyn dwy oed sy'n byw yn Nhorfaen yn gymwys i gael Gofal Plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Gall plant cymwys gael 12.5 awr o ofal plant yr wythnos wedi ei ariannu, yn ystod y tymor yn unig, o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed gyda darparwr sydd wedi cofrestru gyda Dechrau’n Deg.
Gwneud cais am le gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Dylai rhieni a gofalwyr plant sydd:
- yn ddwy oed ac nad ydynt yn cael gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg ar hyn o bryd, neu
- byddant yn troi’n ddwy cyn diwedd y flwyddyn hon
wneud cais erbyn 9 Hydref 2026 i gael gofal plant o fis Ionawr 2027.
Gwneud cais ar-lein:
Ffurflen gais gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Beth yw gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru?
Mae gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar o safon i blant mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg sydd wedi eu cymeradwyo. Mae hyn yn cynnwys meithrinfeydd preifat, cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin a gwarchodwyr plant cofrestredig.
Cymorth i Blant a Theuluoedd
Meddai Emma Treadgold, Rheolwr Cymorth Cynnar a Phartneriaeth:
"Mae ychydig dros 70 y cant o deuluoedd cymwys yn Nhorfaen yn cael gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg ar hyn o bryd. Mae'r ehangu yn golygu y bydd teuluoedd pob plentyn dwy oed yn gallu elwa o 12.5 awr o ofal plant yr wythnos mewn meithrinfa breifat, cylch chwarae, cylch meithrin neu gyda gwarchodwr plant cofrestredig. Mae lleoliadau gofal plant yn cefnogi datblygiad y plentyn a'r cam ymlaen i le addysg feithrin o dair oed, sy'n eu helpu i baratoi ar gyfer dosbarth derbyn yn yr ysgol."
Eisoes yn Manteisio ar Ofal Plant Dechrau'n Deg?
Nid oes angen i blant sydd â lle gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg ailymgeisio ar hyn o bryd, a byddant yn parhau i fynychu eu darpariaeth gofal plant fel arfer.
Darparwyr Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Nhorfaen
Mae gennym nifer o ddarparwyr gofal plant yn Nhorfaen sy'n cynnig lleoedd gofal plant wedi'u hariannu. Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth
Cylchoedd Chwarae DD a Chylchoedd Meithrin
Darparwyr Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg DD
Angen Mwy o Wybodaeth?
Ffoniwch ni ar Radffôn 0800 0196 330 neu anfonwch e-bost [email protected]
