
Cylchoedd Chwarae yn Nhorfaen
Mae cylchoedd chwarae fel arfer yn cynnig sesiynau gofal a dysgu trwy chwarae i blant dwy neu ddwy a hanner oed yn dibynnu ar y gwasanaeth a ffefrir gan y darparwr. Gall cylchoedd chwarae hefyd gynnig sesiynau gofal cofleidiol i blant tair a phedair oed.
I gael gwybodaeth am Grwpiau chwarae a darparwyr gofal cofleidiol sydd yn Nhorfaen, gweler y wybodaeth amdanynt a’u gwasanaethau ar y wefan Gofal Plant.
Ar ôl i chi ddod o hyd i ddarparwr yr hoffech ei holi, bydd angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol, i weld pa leoedd sydd ar gael, ac i gael gwybodaeth fanylach amdanynt, a'r hyn y maen nhw'n ei gynnig.
