Leferydd, Iaith a Chyfathrebu

Cefnogaeth ar gyfer sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn

Mae siarad mor bwysig i blant er mwyn iddyn nhw esbonio eu hanghenion.  Pwy  sydd erioed heb ddod ar draws dryswch plentyn bach nad yw’n gallu egluro i chi beth sy’n bod?

Mae tîm Datblygu Iaith Gynnar Dechrau’n Deg yn trefnu nifer o grwpiau i help rhieni i ddatblygu sgiliau cyfathrebu eu plentyn.  Rydym yn asesu’r plant yn 18 mis oed trwy asesiad WellComm ac mae hyn y dweud wrthym pa fath o sesiwn siarad byddai o’r fantais fwyaf iddyn nhw.

Mae yna sesiynau galw heibio i bawb ac mae grwpiau sydd yn canolbwyntio mwy ar y rhai sy’n amharod i siarad.  Mae’r sesiynau i gyd yn cynnig gweithgareddau o ansawdd dan do ac yn yr awyr agored, i gefnogi plant i ddysgu trwy chwarae a datblygu eu sgiliau iaith.

Mae’r tîm Datblygu Iaith Gynnar hefyd yn derbyn cefnogaeth Therapydd Iaith a Lleferydd Dechrau’n Deg ar gyfer problemau mwy cymhleth.

Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau yma yn digwydd cyn bod disgwyl i’ch plentyn fynychu gofal plant.  Mae rhai plant yn dod yn eu blaenau yn naturiol wrth iddyn nhw dyfu a phan eu bod nhw’n elwa o awyrgylch sy’n gyfoethog o ran iaith yn ystod eu hamser yn y cylch chwarae ond mae ein grwpiau yno i helpu hefyd.

Os ydych chi am fwy o wybodaeth, cysylltwch ar 0800 0196 330.