A oes gennych chi/rhywun yr ydych yn ei adnabod, ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal plant?
Dewisiadau mewn Gofal Plant
Mae Dewisiadau mewn Gofal plant yn rhaglen 8 awr am ddim, ac mae’n gyflwyniad perffaith i yrfa mewn Gofal Plant. Ei nod yw eich helpu i wneud dewis gwybodus wrth ddewis gyrfa os ydych chi’n ystyried gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae yna lawer o rolau o fewn gofal plant sy’n cynnwys gwarchod plant, gweithio mewn creche, cylch chwarae, cylch meithrin, meithrinfa ddydd neu leoliad y tu allan i’r ysgol. Bydd siaradwyr gwadd yn mynychu rhai o’r sesiynau i rannu eu profiadau a’u harbenigedd.
Mae’n rhaglen 8 awr ac mae’n addas i’r rheiny sydd:
newydd adael yr ysgol
yn dychwelyd i waith/dysgu neu ystyried newid gyrfa
eisoes yn gweithio mewn gofal plant ac eisoes yn y gweithlu gofal plant ac yn ystyried symud i sector gwahanol
Ac……
mae am ddim;
mae’n rhaglen 8 awr (4 sesiwn);
mae’n hwyl;
mae gennych gyfle i gwrdd â chyflogwyr lleol a gweithwyr yn y sector gofal plant;
gallwch gwrdd â ffrindiau newydd a rhannu profiadau;
nid yw’n effeithio ar hawlio budd-daliadau (os yw hynny’n berthnasol)
Mae’n agored i unrhyw un, yn cynnwys pobl sy’n gadael yr ysgol, y rheiny sy’n dychwelyd i’r gwaith neu’r rheiny sy’n ystyried newid gyrfa.
Erbyn diwedd y rhaglen bydd gennych ymwybyddiaeth o:
y gwasanaethau amrywiol sydd ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd;
cyflwyniad i ystod o gyfleoedd gwaith mewn gofal plant;
rolau a chyfrifoldebau penodol sydd ynghlwm wrth weithio yn y sector;
deddfwriaeth sy’n berthnasol i ofal plant;
llwybrau i hyfforddi a chymwysterau
Os ydych chi’n ystyried gyrfa mewn gofal plant ac eisiau gwybod mwy, Dewisiadau mewn Gofal Plant yw’r cwrs i chi. Bydd y rhai sy’n bodloni’r gofynion presenoldeb yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb.
I gael mwy o fanylion ffoniwch Gillian Grenfell ar 01633 647423
Mae gwybodaeth am ddod yn warchodwr plant cofrestredig neu nani gymeradwy ar gael yma.