Cymorth gyda Chostau Gofal Plant

Ble i ddechrau….

Mae dewis gofal plant neu addysg blynyddoedd cynnar i’ch plentyn yn gam enfawr i chi a’ch teulu. Mae yna lawer o ddewisiadau gofal plant gwahanol yn Nhorfaen i chi ddewis ohonynt. Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (FIS) roi gwybod i chi am y dewisiadau.

Wyddoch chi…..

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at gostau gofal plant os yw’r gofal plant rydych chi’n ei ddefnyddio wedi’i gofrestru. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio gofal plant yng Nghymru. Gallwch chi wirio gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd os yw eich darparwr gofal plant wedi’i gofrestru gyda AGC. Gallwch hefyd ofyn am y rhif cofrestru yn uniongyrchol gan eich darparwr.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn darparu ffynonellau cymorth gyda chostau gofal plant. Dim ond gwybodaeth gyffredinol a roddir, gan fod cymhwysedd yn dibynnu ar amgylchiadau ac incwm. Felly mae angen i rieni gysylltu â’r cysylltiadau a roddir i dderbyn gwybodaeth fanylach ar gael mynediad at y cymorth ariannol hwn.