Mae dewis gofal plant yn benderfyniad mawr i chi a’ch teulu. Gallwch gysylltu â ni ar ein rhif Rhadffon 0800 0196 330 am gyngor ac arweiniad ar fathau o ofal plant, gwybodaeth am ofal plant lleol sydd ar gael, a chymorth gyda chost gofal plant. Fel arall, gallwch chwilio am ofal plant ar-lein trwy ein cyfleuster chwilio yma.
Os ydych chi’n gweithio ac yn talu am ofal plant cofrestredig, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael rhywfaint o gymorth tuag at gost gofal plant. Mae manylion y cymorth ariannol sydd ar gael ar ein tudalen Cymorth gyda Chostau Gofal Plant.
Ar hyn o bryd cynigir hawl gofal plant am ddim i blant 2 oed trwy raglen Llywodraeth Cymru, Dechrau’n Deg, sydd wedi’i dargedu mewn ardaloedd penodol ledled Cymru.
Gallwch wirio i weld a ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg trwy ein ffonio ni ar Rhadffon 0800 0196 330 neu siarad â’ch Ymwelydd Iechyd. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Dechrau’n Deg yma.
Mae llawer o raglenni yn Nhorfaen sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd (gan gynnwys darpar rieni). Ffoniwch ni ar Rhadffon 0800 0196 330 i gael gafael ar wybodaeth yn seiliedig ar eich anghenion unigol.
Gallwch hefyd ymweld â’n Tudalen Cymorth i Deuluoedd am fanylion ar Teuluoedd yn Gyntaf a mwy.
Yn Nhorfaen, anfonir ffurflenni cais at gyfeiriadau cartref plant ym mis Medi cyn eu trydydd pen-blwydd. Bydd angen i chi wedyn lenwi’r ffurflen a’i chymryd i’ch darpariaeth dewisol cyn dyddiad cau’r cais (fel arfer yn ystod wythnos gyntaf mis Hydref). Rhoddir gwybod i’r rhieni am ganlyniad eu cais gan y gwasanaeth addysg.
Os ydych chi wedi symud ers i’ch plentyn gael ei eni, efallai y bydd angen i chi gysylltu â Gwasanaeth Addysg Torfaen ar 01495 766915 i ddiweddaru cyfeiriad eich plentyn. Cysylltwch â ni ar Rhadffon 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk am fanylion darpariaeth feithrin leol.
Gall plant yn Nhorfaen wneud cais am addysg gynnar (Meithrinfa’r Cyfnod Sylfaen), y tymor ar ôl iddynt droi’n dair oed. Anfonir ceisiadau am addysg feithrin i rieni (gweler uchod) ym mis Medi cyn eu pen-blwydd yn dair oed, a gall plant fod yn gymwys i gychwyn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd (lle meithrin 3 oed).
Mae llefydd addysg 3 oed yn ddibynnol ar a oes darpariaeth meithrin y wladwriaeth (meithrinfeydd yn yr ysgol) neu leoliadau gofal plant preifat (darparwyr addysg) ar gael. Bydd Gwasanaeth Addysg Torfaen yn hysbysu teuluoedd os yw plant yn gallu cael mynediad i leoliad 3 oed.
Enghraifft: Os bydd eich plentyn yn troi yn 3 ym mis Hydref 2018, anfonir ffurflenni ar gyfer addysg feithrin ym mis Medi 2018. Efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i ddechrau addysg feithrin ym mis Ionawr 2019 neu fis Ebrill 2019 (os oes lle ar gael).
Menter Llywodraeth Cymru yw Cynnig Gofal Plant i Gymru a bydd yn darparu gofal plant 30 awr i rieni cymwys sy’n gweithio ar gyfer plant 3-4 oed yn unig. Bydd y gofal plant 30 awr yn gyfuniad o addysg gynnar (rhwng 10 a 12.5 awr) a gofal plant (rhwng 17.5 – 20 awr), am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn cael ei beilota mewn ardaloedd penodol o Ynys Môn, Caerffili, Sir y Fflint, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe. Bydd ar gael ym mhob rhan o Flaenau Gwent.
Mae Cadarnhad o’r Cynnig Gofal Plant yn Nhorfaen yn yr arfaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd byddwch yn derbyn gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol ac ymdrinnir â’ch ymholiad yn gyfrinachol.
Byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich holl gwestiynau a rhoi unrhyw gyhoeddiadau a gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Byddwn hefyd yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill a all eich cefnogi os bydd angen help pellach arnoch.
Byddwn yn creu pecyn gwybodaeth teilwredig ar eich cyfer, y gallwch ei dderbyn drwy’r post neu e-bost. Fel arall, gallwch ddod i siarad â ni wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Plant Integredig Cwmbran, Ton Road, NP44 7LE.