Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant er mwyn cael dealltwriaeth well o’r defnydd y mae rhieni / gofalwyr yn ei wneud o ofal plant, y cyflenwad cyffredinol o ofal plant yn y fwrdeistref ac unrhyw ffactorau sy’n debygol o effeithio ar y galw am ofal plant. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i greu cynllun gweithredu ar gyfer Tîm Gofal Plant Torfaen a gweithredoedd ehangach y Cyngor ynglŷn â gofal plant.
Cynhelir Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn, sy’n cynnwys ymgynghori â rhieni / gofalwyr, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill bob pum mlynedd. Bob blwyddyn, cynhelir diweddariad ar yr asesiad, sy’n edrych ar gyflenwad a galw.
Gweld yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Llawn ar gyfer 2017
Gweld yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Llawn ar gyfer 2017 Atodiad