A fyddech chi’n hoffi gyrfa sy’n gweithio gyda phlant ac sy’n hyblyg? Os mai ‘Byddwn’ yw’r ateb, efallai mai dod yn warchodwr plant cofrestredig yw’r dewis cywir i chi.
Gall gwarchod plant fod yn yrfa gwerth chweil sy’n gweddu i lawer o wahanol ffyrdd o fyw. Fel gwarchodwr plant, chi fydd eich rheolwr eich hun, yn gweithio o’ch cartref eich hun a gallwch drefnu’ch gwaith i weddu i chi’ch hun a’r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw.
Gall ein Swyddogion Datblygu Gofal Plant gynnig cyngor i chi ar ddod yn warchodwr plant cofrestredig a’ch cefnogi trwy’ch cais. Fe’ch anogir i fynychu un o’n sesiynau briffio gwarchodwr plant ac mae archebu’n hanfodol. Ffoniwch ni ar 0800 0196 330 am becyn gwybodaeth, neu gallwch lawrlwytho ein cyhoeddiadau isod.