Safonau Ansawdd

Mae bob lleoliad  a darparwyr gofal plant yn cael y cyfle  i adolygu pob agwedd gofal plant y maent yn ei gynnig a gwella safonau ansawdd trwy ddefnyddio Graddfeydd Amgylcheddol priodol.

Gall eich Swyddogion Datblygu Gofal Plant:

  • Gefnogi darparwyr gofal plant newydd a phresennol i ymgymryd â phroses hunanasesu wrth iddynt gwrdd a’r safonau ansawdd
  • Gefnogi datblygu lleoliadau wrth ddarparu cyfleoedd chwarae profiadol priodol
  • Weithio gyda lleoliadau i nodi meysydd datblygu a rhoi cynlluniau gweithredu ar y cyd ar waith
  • Roi cymorth a chefnogaeth i leoliadau i’w helpu cwrdd ag unrhyw gamau sydd eu hangen i gyflawni’r safon uchaf bosib.

 

Mae Graddfeydd Amgylcheddol yn cynnwys;

ECERS – Graddfa ar gyfer plant 2-5 oed

ITERS – Graddfa raddfa ar gyfer babanod a phlant ifanc

SACERS – Graddfa ar gyfer plant oed ysgol

FCCERS – Graddfa ar gyfer gofal plant mewn amgylchedd teuluol

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Gofal Plant.