Newyddion

Cynnig Gofal Plant Cymru – Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol

Bydd angen i unrhyw ddarparwr gofal plant cofrestredig sy’n dymuno cyflwyno’r Cynnig o fis Ionawr 2023 gofrestru gyda’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Bydd y gwasanaeth digidol yn darparu profiad cyson i rieni a darparwyr ledled Cymru. Mae’n hawdd i ddefnyddio a gellir ei gyrchu ‘wrth fynd’.

  • Mae’r manteision allweddol i ddarparwyr gofal plant yn cynnwys:
  • Un gwasanaeth cenedlaethol syml a ddefnyddir gan bob awdurdod lleol yng Nghymru – os ydych yn darparu gwasanaethau gofal plant i rieni o awdurdodau lleol lluosog, byddwch yn gallu defnyddio un gwasanaeth yn unig yn y dyfodol.
  • Mynediad ‘wrth fynd’ drwy liniaduron, tabledi a ffonau symudol – sy’n golygu gwasanaeth mwy hyblyg i weddu i’ch anghenion
  • Gwasanaeth cwbl ddwyieithog – sicrhau bod darparwyr yn gallu cyrchu’r gwasanaeth yn eu dewis iaith
  • Diogelwch data – mae’r gwasanaeth digidol wedi’i ddatblygu i’r safon uchaf o ran diogelwch data
  • Taliadau cyflym a rheolaidd yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru – yn wythnosol neu’n fisol, yn dibynnu ar eich dewis

Paratoi ar gyfer y gwasanaeth digidol cenedlaethol

1) Nodwch un person arweiniol i gofrestru eich lleoliad

2) Dewch o hyd i’ch rhif cofrestru AGC a’ch rhif SIN. Gellir dod o hyd i’r rhain mewn unrhyw ohebiaeth gan AGC neu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif AGC ar-lein

3) Sicrhewch fod gennych y cod post cofrestredig a manylion banc eich lleoliad(au) wrth law

4) Manteisio ar hyfforddiant sgiliau digidol am ddim

Gallwch gael mynediad i hyfforddiant sylfaenol rhad ac am ddim i ddatblygu eich sgiliau digidol trwy sesiynau hyfforddi sgiliau digidol byw a recordiwyd ymlaen llaw gyda Chymunedau Digidol Cymru. Cofrestrwch ar gyfer sesiynau yma.

Amserlen dyddiadau hyfforddi

Fydd hyfforddiant ar gael ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd?

Bydd, fe fydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfres fer o Ddigwyddiadau Byw er mwyn darparu hyfforddiant ar y gwasanaeth newydd. 

Roedd y cyntaf o’r sesiynau hyfforddi hyn ar sut i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd.

Bydd yr ail gyfres o ddigwyddiadau byw yn edrych ar sut i gadarnhau cytundebau gyda rhieni, ac yn cael eu cynnal ar y dyddiadau isod. Does ond angen i ddarparwyr fynychu un o’r tair sesiwn sydd ar gael. 

Digwyddiad Byw Cytundebau Darparwyr – Sesiwn Gymraeg ar 13 Hydref 18:30 i 20:00

Digwyddiad Byw Cytundebau Darparwyr – Sesiwn Saesneg ar 17 Hydref 18:30 i 20:00

Digwyddiad Byw Cytundebau Darparwyr – Sesiwn Saesneg ar 18 Hydref 10:00 i 11:30

Bydd y drydedd gyfres o ddigwyddiadau byw yn edrych ar sut i hawlio taliadau ac yn cael eu cynnal ar y dyddiadau isod. Does ond angen i ddarparwyr fynychu un o’r tair sesiwn sydd ar gael. 

Digwyddiad Byw Hawliadau Darparwyr – Sesiwn Saesneg ar 5 Rhagfyr 18:30 i 20:00

Digwyddiad Byw Hawliadau Darparwyr – Sesiwn Saesneg ar 6 Rhagfyr 10:00 i 11:30

Digwyddiad Byw Hawliadau Darparwyr – Sesiwn Gymraeg ar 6 Rhagfyr 18:30 i 20:00

Nodwch y bydd systemau Awdurdodau Lleol yn parhau yn eu lle hyd nes na fydd y rhieni sy’n derbyn y Cynnig Gofal Plant drwy’r systemau hynny bellach yn gymwys

Am ragor o wybodaeth ewch i Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol | LLYW.CYMRU

Cofrestrwch ar gyfer Gofal Plant Di-dreth os ydych yn ddarparwr gofal plant

Darganfyddwch sut i gofrestru ar gyfer Gofal Plant Di-dreth a chael cyfrif darparwr gofal plant i dderbyn taliadau gan rieni sy’n defnyddio’r cynllun.

https://www.gov.uk/guidance/sign-up-to-tax-free-childcare-if-youre-a-childcare-provider