Datganiad Cenhadaeth/Strwythur/ Hanes y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Datganiad Cenhadaeth “Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen yn darparu gwybodaeth ac arweiniad hygyrch, diduedd ac o ansawdd, ar yr ystod lawn o wasanaethau, adnoddau a materion Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, dan arweiniad anghenion plant a’u teuluoedd, gofalwyr, cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol, llywodraeth leol a chenedlaethol a’u hasiantaethau.”

Darperir Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (FIS) gan Wasanaeth Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’r FIS yn wasanaeth statudol – mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu’r gwasanaeth gwybodaeth hon i bobl sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn sicrhau nad yw’n costio i ddefnyddio’r Gwasanaeth hwn.

Crëwyd Gwasanaeth Gwybodaeth i Blant Torfaen (CIS) yn 2002 o ganlyniad Cynllun Gweithredu Gofal Plant Llywodraeth Cymru ac fe’i lleolwyd yn bennaf yn Neuadd y Sir, Cwmbrân. Ers hynny, mae’r gwasanaeth wedi symud i Ganolfan Blant Integredig Cwmbrân er mwyn sicrhau ei fod hyd yn oed yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

Yn 2008, cafodd y gwasanaeth ei ail-frandio fel Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (FIS) oherwydd y newidiadau i’r gwasanaeth dan Ddeddf Gofal Plant newydd 2006 (a ddaeth i rym yn 2008). Dyletswydd newydd o dan y Ddeddf yw asesu’r ddarpariaeth gofal plant leol ac mae FIS Torfaen yn cynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.