Meithrinfa Ddydd

Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal plant i fabanod a phlant hyd at 5 mlwydd oed (er, mae rhai yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel clybiau cyn ac ar ôl ysgol neu glybiau gwyliau i blant o oed ysgol). Maen nhw fel arfer yn cynnig gofal plant o tua 8am tan tua 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rhaid i feithrinfeydd dydd yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda, a chael eu harolygu gan AGGCC . Mae rhai meithrinfeydd dydd yn Nhorfaen hefyd yn ddarparwyr addysg feithrin gofrestredig sy’n golygu y gall rhieni/gofalwyr plant 3 a 4 oed, dderbyn cyllid gan yr Awdurdod Lleol tuag at gostau lle gofal plant os ydynt yn dewis lle addysg feithrin i’w plentyn yn y feithrinfa ddydd.

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen am fanylion meithrinfeydd dydd i ddiwallu eich anghenion gofal plant. Ffoniwch Radffôn 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk

Dewch o hyd i feithrinfa dydd yma

Nôl i ofal plant ac addysg feithrin >